Bangor yn uwch na Manceinion, Lerpwl a phrifysgolion eraill o ran profiad myfyrwyr
Rhoddwyd Prifysgol Bangor yn 18fed allan o 111 o brifysgolion y Deyrnas Unedig o ran profiad myfyrwyr mewn arolwg gan grŵp 'Times Higher Education'.
Saethodd Bangor i fyny o'r 33ain safle y llynedd i 18fed yn Arolwg Profiad Myfyrwyr 2014. Mae hyn yn rhoi'r brifysgol uwchben llawer o sefydliadau enwog, yn cynnwys St. Andrews, Manceinion, Birmingham, Efrog, Glasgow, Lerpwl, Imperial College a Choleg Phrifysgol Llundain ac yn ei rhoi yn yr ail safle yng Nghymru.
Cafodd y brifysgol sgôr uchel am ei staff cyfeillgar, ansawdd uchel ei chyrsiau a'i hawyrgylch cymunedol gwych. Un elfen a wnaeth yn arbennig o dda oedd safon uchel y gweithgareddau a'r cymdeithasau allgyrsiol. Mae gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor dros gant o glybiau a chymdeithasau sy'n cynnwys pob math o chwaraeon, meysydd academaidd a diddordebau amrywiol, a Phrifysgol Bangor yw'r unig brifysgol gyhoeddus ym Mhrydain sy'n sicrhau bod pob clwb a chymdeithas myfyrwyr am ddim i bob myfyriwr.
"Mae'r profiad gwych y mae myfyrwyr yn ei gael, ynghyd â'r gofal a gânt ym Mangor, wedi bod yn un o brif atyniadau'r brifysgol ers cenedlaethau, ac mae'n amlwg bod ein myfyrwyr yn gwerthfawrogi'r profiad o astudio yma," dywedodd yr Athro John G. John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor.
Ar hyn o bryd, mae Bangor yn buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn amryw o ddatblygiadau newydd, yn cynnwys canolfan newydd Pontio, gwerth £48 miliwn ac a fydd yn cynnwys darlithfeydd, mannau dysgu cymdeithasol, theatr, sinema, man arloesi a chartref newydd i Undeb y Myfyrwyr.
Yn ogystal â hyn, mae'r brifysgol wrthi'n adeiladu llety newydd i fyfyrwyr, gwerth £30 miliwn, ac yn adnewyddu ei chyfleusterau chwaraeon, yn cynnwys ailwampio'r adnoddau sydd ar gael yng Nghanolfan Brailsford, canolfan chwaraeon y brifysgol ac, mewn partneriaeth a Chlwb Pêl-droed Dinas Bangor, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru, yn creu cae artiffisial 3G newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2014