Bwyd Da Bangor
Mynychodd Dr Hefin Gwilym o'r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ddigwyddiad agoriadol Bwyd Da Bangor ddydd Llun, 1af Tachwedd. Mae Prifysgol Bangor yn aelod sefydlol o Gynghrair Tlodi Bwyd Gogledd Cymru sy'n cefnogi Bwyd Da Bangor. Yr aelodau sefydlu eraill yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir y Fflint, Grŵp Tai Pennaf, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Gogledd Gogledd Cymru. Yn ogystal, bydd myfyrwyr ar fodiwl Profiad Gwaith yr Ysgol yn gwirfoddoli i gefnogi'r fenter.
Mae Bwyd Da Bangor yn fenter amlasiantaethol arloesol sy'n ceisio mynd i'r afael â sawl thema allweddol, gyda lleoliad yng nghanol Bangor. Gan adeiladu ar lwyddiant prosiectau mewn mannau eraill, mae Bwyd Da Bangor yn cyfuno rhaglen rhannu bwyd yn seiliedig ar aelodaeth, gan ail-ddosbarthu stoc archfarchnadoedd dros ben, gyda chaffi hyfforddi o ansawdd uchel. Bydd y caffi yn cael ei redeg gan staff sy'n dod trwy ganolfan adfer cyffuriau ac alcohol Tŷ Penrhyn neu'r rhai sy'n byw mewn llety digartref ym Mangor ar hyn o bryd. Gan dderbyn hyfforddiant trwy Goleg Menai, bydd yr unigolion hyn yn derbyn cefnogaeth a chymwysterau i gael mynediad i gyflogaeth hirdymor.
Mae Bwyd Da Bangor yn mynd i'r afael â sawl maes blaenoriaeth, gan gynnwys:
- Cefnogi cynhyrchu bwyd a lleihau'r ôl troed carbon.
- Lliniaru tlodi bwyd
- Helpu i ddileu gwastraff bwyd
- Cyfrannu at adfywiad economaidd Canol Dinas Bangor.
- Creu cyflogaeth
- Helpu unigolion i symud ymlaen o ddigartrefedd
- Cefnogi unigolion sy'n dod trwy broses o adsefydlu ar ol cyffuriau ac alcohol
- Creu cyfleoedd gwirfoddoli
Mae Bwyd Da Bangor wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a Sefydliad Steve Morgan. Mae'r holl gyfraniadau hyn wedi helpu i greu cynllun unigryw a fydd yn helpu sawl unigolyn a theulu a bydd yn adeiladu ar y trefniadau partneriaeth presennol i sicrhau bod tlodi bwyd ac atal digartrefedd ar flaen y gad yn natblygiadau'r ragmen yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2021