Cais Erasmus+ ar thema Radicaleiddio a Strategaethau Dadradicaleiddio
Aeth Dr Hefin Gwilym, ar ran yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, i gyfarfod cynllunio ar gyfer cais cyllido Erasmus+ ar thema 'Radicaleiddio Pobl Ifanc yn Ewrop: Strategaethau Dadradicaleiddio' ym Mhrifysgol Georg-Simon-Ohm, Nuremberg ar 15 Tachwedd. Mae rhwystro pobl ifanc rhag cael eu radicaleiddio a chryfhau eu dinasyddiaeth weithredol yn bynciau pwysig ledled Ewrop ar hyn o bryd.
Os bydd y cais Erasmus+ yn llwyddiannus, bydd y project yn archwilio, gwerthuso a lledaenu gwybodaeth am y broses o radicaleiddio ac am arferion da o ran dadradicaleiddio, a bydd yn datblygu ymyriadau dadricaleiddio newydd i bobl ifanc sydd mewn mwyaf o berygl.
Caiff adnodd ei lunio ar y we a chynllunnir Rhaglen Erasmus Dwys ar gyfer grŵp bach o fyfyrwyr o bob prifysgol sy'n cymryd rhan, o bosib ar ffurf ysgol haf am gyfnod o ddeuddeg diwrnod.
Daeth cynrychiolwyr hefyd i’r cyfarfod o brifysgolion yn Awstria, y Ffindir, Hwngari, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl a'r Swistir. Caiff y cais ei gyflwyno erbyn mis Mawrth 2017 a disgwylir penderfyniad ym mis Mehefin 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2016