Cenedl, Dosbarth a Dicter
Mewn astudiaeth gymharol unigryw sydd newydd ei chyhoeddi mae Robin Mann, cymdeithasegydd a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, yn trafod y gwahaniaethau yn y ffordd y mynegir hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr, a sut mae hunaniaeth genedlaethol yn effeithio ar agweddau tuag at faterion cyfoes megis Brexit a mewnfudo.
Yn The Politics of National Identity in England, Scotland and Wales, a gyhoeddwyd gan Palgrave, mae Robin Mann, o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor a Steve Fenton, Athro Emeritws Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bryste, yn datgelu sut mae newidiadau mewn economïau cyfalafol cyfoes wedi ffurfio ymdeimlad pobl o berthyn cenedlaethol heddiw. Maent yn egluro hefyd sut mae gwahanol hunaniaethau cenedlaethol yn gysylltiedig ag agweddau tuag at ddatganoli, Ewrop a mewnfudo yn y tair gwlad.
Eglurodd Robin Mann: "Mae newidiadau economaidd, yn arbennig symudiadau byd-eang cyfalaf a chyflogaeth, wedi meithrin ansicrwydd a phryder ymysg rhai pobl o'r dosbarth canol a gweithiol sy'n credu eu bod ar eu colled. Mae hynny'n eu gwneud yn ddig ac wedi'u dadrithio gyda gwleidyddiaeth gonfensiynol."
Ychwanegodd Mann: "Mae'r newidiadau cymdeithasol hyn wedi arwain at gyfeiriadau gwahanol yn Lloegr, Cymru a'r Alban. Yn fwy arbennig, mae'r Alban wedi osgoi cenedlaetholdeb ddicllon drwy dynnu'r pleidleiswyr hynny a oedd wedi troi cefn ar y Blaid Lafur at yr SNP a 'chenedlaetholdeb flaengar'. Yn Lloegr mae cenedlaetholdeb flaengar yn broblemus oherwydd y ffordd mae hunaniaeth Seisnig yn hanesyddol wedi ei glymu wrth ddosbarth ac ymerodraeth. Gellir dadlau fod Cymru'n fwy cymhleth. Ar un llaw, mae pleidleiswyr Plaid Cymru, a siaradwyr Cymraeg, yn fwy tebygol o fod o blaid mewnfudo ac o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Ar y llaw arall, mae'r Blaid yn cael trafferth i ennill tir yn yr ardaloedd sydd wedi arfer â phleidleisio i Lafur, a gwelsom UKIP yn ennill seddau yn y Cynulliad a phleidleisiodd Cymru drwodd a thro i adael yr UE. Felly mae edrych ar draws Lloegr, Yr Alban a Chymru, ac archwilio'r gwahaniaethau rhyngddynt o ran hunaniaeth a gwleidyddiaeth, yn ddadlennol iawn.
Meddai Mann ymhellach, wrth sôn am swyddogaeth cymdeithaseg:
"Wrth i ni fynd i mewn i gyfnod newydd, gall cymdeithaseg helpu i egluro beth sy'n mynd ymlaen tu ôl i wleidyddiaeth boblogaidd y cyfnod presennol. Mae ein hymchwil yn dangos bod y cwynion economaidd a'r diffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddion, a oedd yn sail i Brexit, wedi bod o gwmpas ers peth amser mewn gwirionedd. Os ydym i ddeall Brexit, mae angen i ni ei roi yn ei gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol priodol. Mae hyn yn golygu y dylem barhau i edrych yn ôl ar y ffordd mae syniadau'n ymwneud â chenedl a hunaniaeth wedi datblygu, a sut maent yn ffurfio'r dewisiadau gwleidyddol sydd ar gael i bobl heddiw."
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2017