Croesawu’r 7fed Colocwiwm ar Hanes Cymru i Fangor
Dros y penwythnos bydd Prifysgol Bangor y croesawu ysgolheigion amlwg o hyd a lled Prydain a thu hwnt, i’r Seithfed Colocwiwm ar Hanes Cymru’r Oesoedd Canol.
Rhwng y 7fed a’r 9fed o Dachwedd caiff darlithoedd eu traddodi ar ystod eang iawn o bynciau – o hanes a chwedloniaeth yng Ngwynedd yr Oesoedd Canol Cynnar, i dai gwerinwyr a diwylliant materol Cymru’r Oesoedd Canol Diweddar. Clywir am hanes merched, hanes y saint yng Nghymru, a’r berthynas rhwng Cymru a gwahanol rannau eraill o Ynysoedd Prydain, yn ogystal ag amrywiol agweddau ar hanes gwleidyddol Cymru yn y cyfnod.
Yn dilyn llwyddiant y Colocwiwm Cyntaf ar Gymru’r Oesoedd Canol ym Mangor yn 2002, fe’i dilynwyd gan gynadleddau tebyg bob yn ail flwyddyn ers hynny. Dyma’r unig gynhadledd sydd wedi’i neilltuo’n arbennig i Hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol, a’r amcan yw cynnig llwyfan i waith ymchwil ar bob agwedd ar hanes, llenyddiaeth a diwylliant materol Cymru’r oesoedd canol. Traddodir papurau gan fyfyrwyr ymchwil yn ogystal ag ysgolheigion profiadol ac mae’r gynhadledd yn cynnig fforwm bywiog a chyfle i bawb sy’n ymddiddori yng Nghymru’r oesoedd canol i gwrdd â’i gilydd. Hyd yn hyn cafwyd siaradwyr o’r Alban, Awstria, Cymru, Gwlad Pwyl, Iwerddon, Lloegr a’r Unol Daleithiau.
Trefnir y Seithfed Colocwiwm ar Hanes Cymru’r Oesoedd Canol gan yr Athro Huw Pryce a Dr Euryn Rhys Roberts, ill dau o Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg y Brifysgol . Noddir y gynhadledd gan Brifysgol Bangor, Cynghrair Strategol Aberystwyth a Bangor/ Y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2014