Croesawu’r 8fed Colocwiwm ar Hanes Cymru i Fangor
Dros y penwythnos bydd Prifysgol Bangor y croesawu ysgolheigion amlwg o hyd a lled Prydain a thu hwnt, i’r Wythfed Colocwiwm ar Hanes Cymru’r Oesoedd Canol.
Rhwng y 22ain a’r 23ain o Hydref caiff darlithoedd eu traddodi ar ystod eang o bynciau - o’r tirlun ac awdurdod yng Nghymru’r Oesoedd Canol Cynnar, i’r defnydd a wnaethpwyd o destunau meddygol Cymraeg Canol wrth drin cleifion yn y cyfnod. Bydd cyfle i glywed am effeithiau Newyn Mawr 1315-1322 ar Gymru, dogfennau esgobion Bangor, a’r berthynas rhwng Cymru a gwahanol rannau eraill o Ynysoedd Prydain, yn ogystal ag amrywiol agweddau ar hanes gwleidyddol Cymru yn y cyfnod.
Yn dilyn llwyddiant y Colocwiwm Cyntaf ar Gymru’r Oesoedd Canol ym Mangor yn 2002, fe’i dilynwyd gan gynadleddau tebyg bob yn ail flwyddyn ers hynny. Dyma’r unig gynhadledd sydd wedi’i neilltuo’n arbennig i Hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol, a’r amcan yw cynnig llwyfan i waith ymchwil ar bob agwedd ar hanes, llenyddiaeth a diwylliant materol Cymru’r oesoedd canol. Traddodir papurau gan fyfyrwyr ymchwil yn ogystal ag ysgolheigion profiadol ac mae’r gynhadledd yn cynnig fforwm bywiog a chyfle i bawb sy’n ymddiddori yng Nghymru’r oesoedd canol i gwrdd â’i gilydd. Hyd yn hyn cafwyd siaradwyr o’r Alban, Awstria, Cymru, Gwlad Pwyl, Iwerddon, Lloegr, Twrci a’r Unol Daleithiau.
Ar nos Wener y 21ain o Hydref traddodir y Bedwaredd Ddarlith Sir John Edward Lloyd gan yr Athro Huw Pryce.
Trefnir yr Wythfed Colocwiwm ar Hanes Cymru’r Oesoedd Canol gan yr Athro Huw Pryce, Dr Euryn Rhys Roberts a Dr Owain Wyn Jones, y tri o Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg y Brifysgol. Noddir y gynhadledd gan Brifysgol Bangor, Cynghrair Strategol Aberystwyth a Bangor/ Y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2016