Cydnabyddiaeth o Bwys i Archifau'r Brifysgol
Mae'n bleser gan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru gyhoeddi bod Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor wedi derbyn Achrediad y Gwasanaeth Archifau (Archive Service Accreditation).
Statws achrededig yw prif fesur arfer da a safonau cytunedig ar gyfer gwasanaethau archifau ar draws y Deyrnas Unedig, gan asesu gallu sefydliad i ddatblygu a gofalu am ei gasgliadau, a rhoi mynediad iddynt.
Mae'r archifau ym Mangor yn gyfrifol am reoli a gwarchod rhai o gasgliadau ystadau mwyaf arwyddocaol Cymru, sy'n darparu tystiolaeth hanfodol ar gyfer y projectau a ddatblygir gan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.
Cyflwynwyd yr Achrediad yn swyddogol yn ystod seremoni ym mis Rhagfyr, ac yn bresennol yr oedd Dr Sarah Horton o Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd (MALD) Llywodraeth Cymru, yr Is-ganghellor ac Aelod Bwrdd Ymgynghorol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Yr Athro John G. Hughes a grŵp o ddefnyddwyr rheolaidd yr archifau.
Llongyfarchiadau mawr i Elen Wyn Simpson a'i thîm ar y llwyddiant gwych hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2017