Cyfarwyddwr Newydd ar gyfer prif Ganolfan Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol
Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) wedi penodi Cyfarwyddwr newydd.
Mae’r Athro Ian Rees Jones wedi cael ei benodi yn Gyfarwyddwr newydd WISERD. Wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd yn arwain y Sefydliad sydd wedi dod yn brif ganolfan ar gyfer rhagoriaeth mewn ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, yng Nghymru ac y tu hwnt iddi. Sefydlwyd WISERD yn 2008 i ddod ag arbenigedd ymchwilwyr o brifysgolion Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, De Cymru ac Abertawe ynghyd.
Nod y Sefydliad yw cryfhau ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol ac economaidd ledled Cymru trwy gydweithredu a mentrau ar y cyd.
Wrth siarad am ei swydd newydd, dywedodd yr Athro Jones, ‘Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i fod yn Gyfarwyddwr WISERD. Mae WISERD wedi bod yn cynhyrchu ymchwil amlddisgyblaethol o ansawdd uchel ers ei sefydlu yn 2008 ac mae ein llwyddiant yn ddiweddar o ran cael cyllid ymchwil ar gyfer Cymru, ynghyd â’r gefnogaeth barhaus a gawn o’r pum prifysgol sy’n ffurfio Grŵp Dydd Gŵyl Dewi Sant, yn adlewyrchu proffil WISERD fel canolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol am ragoriaeth ei hymchwil.’
‘Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar etifeddiaeth y bum mlynedd diwethaf ac ymgymryd â phrosiectau ymchwil newydd a heriol, datblygu ein doniau ymchwil yng Nghymru a chyflwyno ymchwilwyr newydd ar gyfer y dyfodol.’
Yn gyn Bennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, cyn ymuno â WISERD yn 2012, mae’r Athro Jones yn adnabyddus am ei ymchwil ar anghydraddoldebau ym maes iechyd; a heneiddio a bywyd hwyrach. Mae ganddo ddiddordeb mewn damcaniaethu newid cymdeithasol a phrosesau newid cymdeithasol (yn enwedig ers y 1960au) ac mae wedi ymchwilio hefyd i feysydd sy’n canolbwyntio ar ffyrdd o fyw a chysylltiadau cymdeithasol, dosbarthiadau cymdeithasol, newid cymunedol a chymdeithasol a thryloywder ac ymddiriedaeth ym meysydd iechyd a lles.
Yn aelod newydd ei benodi o Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol, mae’r Athro Jones yn awyddus i ddatblygu ymchwil sy’n berthnasol i bolisi trwy fentrau cydweithredol ac arbenigedd mewn ymagweddau dulliau cymysg. Mae’n disodli’r Athro Gareth Rees, a ymddeolodd fel Cyfarwyddwr ym mis Awst 2013. Bydd yr Athro Rees yn parhau â’i waith ar ymchwil addysg yn WISERD.
Sefydlwyd Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn 2008 i ddod ag arbenigedd mewn dulliau a methodolegau ymchwil feintiol ac ansoddol ynghyd ac adeiladu arno ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. Mae WISERD yn cyflawni gweithgareddau ymchwil ac adeiladu gallu sy’n sail i seilwaith ymchwil yn y gwyddorau economaidd a chymdeithasol ledled Cymru a’r tu hwnt iddi.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2013