Cyfle i Astudio am 20 Credyd yn yr Almaen yn ystod y Semester Cyntaf
Mae yna gyfle i 6 myfyriwr ail flwyddyn o’r Gwyddorau Cymdeithas i astudio am 10 diwrnod yn yr Almaen yn ystod y semester cyntaf yma, o 12 Tachwedd hyd at 22 Tachwedd. Mae’r modiwl 20 credyd yma, Ymwneud Gwirfoddolwyr yn Ewrop, yn cael ei gefnogi gan Erasmus ac wedi ei ddilysu gan Brifysgol Bangor. Mae ychydig o lefydd ar ôl ar gyfer myfyrwyr Bangor.
Mae’r cyfle yma i astudio yn Yr Almaen yn galluogi chi i edrych ar amcanion, dulliau a chanlyniadau gweithredu gwirfoddol gyda chyd-destun cymharol Ewropeaidd. Mae’r themâu yr edrychir arnynt yn cynnwys yr ysgogiadau i ddod yn wirfoddolwr, strategaethau i recriwtio gwirfoddolwyr, dal gafael arnynt a’u rheoli, swyddogaeth gweithredu gwirfoddol wrth adnabod, blaenoriaethu a hwyluso newid cymdeithasol, gwirfoddoli ar draws cwrs bywyd a rhyngweithio rhwng sefydliadau heb fod yn perthyn i lywodraeth, y wladwriaeth les, defnyddwyr gwasanaethau a gwirfoddolwyr. Mi fyddwch yn cydweithio gyda myfyrwyr o Sbaen, Y Ffindir, Gwlad Pwyl a’r Almaen. Mi fyddwch yn cael eich cefnogi drwy’r amser gan 2 ddarlithydd o Brifysgol Bangor. Mi fydd cyfle i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg i gael cefnogaeth gan ddarlithydd Cymraeg.
Canlyniadau Dysgu:
1. Cael dealltwriaeth gymharol o swyddogaeth ac arwyddocâd gwirfoddoli mewn nifer o wahanol gyfundrefnau lles
2. Deall ysgogiadau a dulliau recriwtio gwirfoddolwyr
3. Gallu dadansoddi’r ffactorau ariannol, gweinyddol ac eraill sy’n hyrwyddo gweithgareddau gwirfoddoli llwyddiannus
Cyllid:
Byddwch yn derbyn lwfans cynhaliaeth dyddiol bychan [a ragwelir yn €27 y dydd ar hyn o bryd] ac ad-delir 75 y cant o’r costau teithio drwy gyllid Erasmus. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr unigol dalu costau ychwanegol eu hunain am gynhaliaeth. Bydd gwybodaeth fanwl am y costau tebygol ar gael yn yr wythnosau nesaf.
Cyswllt:
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle yma ac os hoffech wybod mwy cysylltwch â:
Hefin Gwilym, Darlithydd, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Adeilad Ogwen (h.gwilym@bangor.ac.uk)
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2012