Cyfle i wneud interniaeth wedi'i chyllido yn y gwaith cloddio ym Meillionydd
Fel rhan o Gynllun Interniaeth Prifysgol Bangor i Israddedigion yn 2014/15, mae'r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yn cynnig interniaeth o 01-29/06/2015 yn y gwaith cloddio a gynhelir ym Mhroject Meillionydd. Gwaith cloddio yw hwn mewn lloc cylchfur dwbl yn Meillionydd, ger Y Rhiw ar benrhyn Llŷn.
Bydd yr intern yn cymryd rhan yn y gwaith cloddio ym Meillionydd fel aelod llawn o’r tîm yn ystod hanner cyntaf tymor 2015. Mae'r interniaeth yn 150 o oriau o waith cyflogedig. Yn ystod y cyfnod hwn, nid yn unig bydd yr intern yn cael profiad gwaith maes sylfaenol, ond bydd hefyd yn derbyn hyfforddiant fel goruchwyliwr trwy gael ei g/chyflwyno i wahanol gyfrifoldebau swyddog ar y safle cyn bod yn gyfrifol am y swyddogaethau hynny ei hun.
Darperir llety, bwyd a thrafnidiaeth i’r safle ger Y Rhiw yn ddi-dâl.
Mae manylion am gyfleoedd interniaeth fel rhan o Gynllun Interniaeth Prifysgol Bangor i Israddedigion 2014/15 i'w cael ar wefan Gwobr Cyflogadwyedd Bangor. Gall myfyrwyr gyflwyno eu ceisiadau hyd 12pm ddydd Mercher, 22 Ebrill 2015.
Am wybodaeth pellach am broject Meillionydd, ewch i’r wefan.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2015