Cymhwyso GRADE-CERQual i ganfyddiadau synthesis tystiolaeth ansoddol - Cyfres newydd o bapurau
Mae cyfres o bapurau a gyhoeddwyd yn Implementation Science yr wythnos hon yn rhoi canllawiau ar sut i gymhwyso'r dull GRADE-CERQual. Mae CERQual yn helpu i asesu faint o hyder y dylid ei roi yng nghanfyddiadau synthesis tystiolaeth ansoddol.
Pam mae GRADE-CERQual yn bwysig?
Gall canfyddiadau synthesis ymchwil ansoddol helpu i ddarparu tystiolaeth am farn pobl ynglŷn â materion iechyd a gofal cymdeithasol, am ba mor dderbyniol yw ymyriadau i'r bobl y byddant yn effeithio arnynt, am ddichonoldeb ymyriadau, ac am ystod o ffactorau eraill sy'n debygol o ddylanwadu ar y gweithredu. Mae synthesisau o'r fath yn cael eu defnyddio fwyfwy i lywio penderfyniadau am bolisïau iechyd a pholisïau cymdeithasol. Mae dull GRADE-CERQual (‘Confidence in the Evidence from Reviews of Qualitative Research’) yn helpu'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau i ddefnyddio'r synthesisau hyn trwy nodi faint o hyder y dylid ei roi ym mhob canfyddiad.
Mae'r dull GRADE-CERQual eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn canllawiau a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn y DU, Cyngor Sweden ar Asesu Technoleg Iechyd a Menter y Comisiwn Ewropeaidd ar Ganser y Fron. Meddai Susan L Norris, Ysgrifennydd Pwyllgor Adolygu Canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd: "Mae pwysigrwydd data ansoddol yn cael ei gydnabod fwyfwy wrth wneud argymhellion ar gyfer iechyd y cyhoedd, gan fod yn rhaid i'r argymhellion hynny adlewyrchu llawer mwy na'r cydbwysedd rhwng buddion a niwed unrhyw ymyriad wrth ei fesur yn feintiol. Mae data ar dderbynioldeb a dichonoldeb, er enghraifft, yn amhrisiadwy wrth lunio argymhellion ac wrth eu haddasu i'r cyd-destun lleol. Mae dull CERQual wedi bod yn hanfodol wrth ein helpu i ddefnyddio tystiolaeth ansoddol yn briodol."
Cyfres o saith papur
Mae'r gyfres hon yn rhoi canllawiau manwl ar sut i gymhwyso'r dull GRADE-CERQual. Mae Papur 1 yn rhoi trosolwg o sail resymegol a chysyniadol CERQual, sut y cafodd y dull ei ddatblygu, ei nodau, a'i brif elfennau. Mae Papurau 3, 4, 5, 6 a 7 yn trafod pob un o elfennau CERQual yn eu tro, gan gynnwys y cysyniad sydd wrth wraidd yr elfen honno a sut y dylid ei hasesu. Mae Papur 2 yn trafod sut i wneud asesiad cyffredinol o hyder yng nghanfyddiadau adolygiad a sut i greu Crynodeb o Ganfyddiadau Ansoddol ar ffurf tabl.
Bwriadwyd y gyfres yn bennaf ar gyfer y rhai hynny sy'n ymgymryd â synthesis tystiolaeth ansoddol neu sy'n defnyddio eu canfyddiadau wrth wneud penderfyniadau, ond mae hefyd yn berthnasol i asiantaethau sy'n datblygu canllawiau, i ymchwilwyr tystiolaeth ansoddol wreiddiol ac i wyddonwyr ac ymarferwyr.
Nododd un o'r cyd-awduron, yr Athro Jane Noyes, o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor "Mae nifer fawr o sefydliadau sy'n llunio canllawiau ledled y byd wedi manteisio ar CERQual. Mae CERQual eisoes wedi cael effaith fawr ar y ffordd y mae sefydliadau blaenllaw sy'n llunio canllawiau yn mynd ati i wneud argymhellion ar sail tystiolaeth sydd wedi ei llywio gan synthesis tystiolaeth ansoddol. "
Ychwanegodd un o'r cyd-awduron, Simon Lewin, o Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Norwy a Chyngor Ymchwil Meddygol De Affrica: "Mae'r gyfres hon yn rhoi gwybodaeth fanwl i ddefnyddwyr CERQual ar sut i ddefnyddio'r dull. Mae CERQual eisoes yn helpu pobl sy'n gwneud penderfyniadau ar draws y byd i ddeall faint o hyder i'w roi yng nghanfyddiadau synthesis tystiolaeth ansoddol. Bydd hyn yn eu helpu i ddefnyddio tystiolaeth ansoddol yn ehangach ac yn fwy priodol."
Rhan o weithgor rhyngwladol GRADE
Datblygwyd CERQual gan dîm rhyngwladol o ymchwilwyr ansoddol, fel is-grŵp o Weithgor GRADE (Grading of Recommendations Assessment, Development, and Evaluation) (www.gradeworkinggroup.org), gyda chyllid gan Alliance for Health Policy and Systems Research, Cochrane, Norad, Cyngor Ymchwil Norwy a Sefydliad Iechyd y Byd. Mae un o'r cyd-awduron, Claire Glenton, yn nodi: "Rydym yn annog unrhyw un sy'n awyddus i gefnogi'r gwaith o ddatblygu mwy ar CERQual i ymuno â'r is-grŵp trwy ein gwefan (www.cerqual.org)."
Mae'r papurau GRADE-CERQual ar gael yn rhad ac am ddim ar wefan Implementation Science yn https://implementationscience.biomedcentral.com/articles/supplements/volume-13-supplement-1
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2018