Cynhadledd Ethnograffeg a Ffiniau Symudol Plismona
Cynhadledd Ethnograffeg a Ffiniau Symudol Plismona
23 - 24 Ebrill 2020
http://policing-ethnographies.bangor.ac.uk/index.php.cy
Gwelwyd bod ethnograffeg yn fethodoleg hanfodol ar gyfer mynd mewn i'r byd plismona a'i ddeall. Mae'r maes plismona cyfoes 'lluosog' yn cynnwys llu o sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gan wahodd llwybrau newydd ar gyfer ymchwil a thrafodaeth ethnograffig. Mae'r gynhadledd ddeuddydd hon yn dwyn ynghyd ysgolheigion ac ymarferwyr plismona i drafod a rhannu dealltwriaeth o waith maes ethnograffig a wnaed gyda gweithredwyr plismona a gweithwyr proffesiynol ym maes rheoli cymdeithasol ar draws gwahanol gyd-destunau.
Rydym yn croesawu papurau gan ymchwilwyr - anogir ymchwilwyr doethurol yn arbennig i gyflwyno papurau - rhai sydd wedi gwneud gwaith maes ethnograffig gyda ffurfiau plismona lluosog (e.e. swyddogion gwarchod ffiniau, grwpiau cymdeithasau sifil, cwmnïau diogelwch preifat) a'r rheini sy'n ymchwilio i ffurfiau mwy traddodiadol o blismona'r wlad trwy ddull ethnograffig. Rydym hefyd yn croesawu gweithwyr proffesiynol ym maes plismona sydd â diddordeb mewn defnyddio ymchwil ethnograffig ar gyfer ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth.
Galwad am Bapurau
Y dyddiad cau ar gyfer crynodebau yw Dydd Gwener 31 Ionawr 2020. Cyflwynwch eich crynodeb yma
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2019