Cynhadledd Gwyddorau Cymdeithas Bangor ar Intersectionality a Pherthyn (28-29 Mehefin)
Ar Ddydd Iau a dydd Gwener, 28 a 29 Mehefin, bydd Prifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd ryngwladol yn edrych ar themâu intersectionality a pherthyn.
Mae’r gynhadledd yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor, Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Canolfan Ymchwil ar Fudo, Ffoaduriaid a Pherthyn ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain, yn ogystal â’r British Sociological Association Social Theory Study Group.
Mae’r trefnwyr wedi casglu ynghyd nifer o siaradwyr a chynadleddwyr blaenllaw ym maes dyniaethau a gwyddorau cymdeithas. Fel yr eglura un o’r trefnwyr Dr Robin Mann, darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor: “Mae dadleuon heddiw ynglŷn â chenedl, gender, rhywioldeb a chrefydd yn aml yn defnyddio'r syniad o ‘intersectionality’ i ddeall sut y mae’r rhain a chategorïau eraill o hunaniaeth yn berthnasol i’w gilydd. Felly mae sawl agwedd wahanol ar bwy ydym ni, ac i beth yr ydym yn perthyn, sy’n gwrthddweud ei gilydd. Credwn y bydd y gynhadledd yn darparu fforwm i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r ystyriaethau hyn. Bydd yn arbennig o addas i ôl-raddedigion ac unigolion sydd â diddordeb yn y ‘cwestiwn o hunaniaeth’, a bydd yn gyfle i ryngweithio gydag ymchwilwyr sy'n gweithio ar draws ystod eang o gyd-destunau a disgyblaethau".
Dyma rai o’r prif siaradwyr yn y gynhadledd:
Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ar Fudo, Ffoaduriaid a Pherthyn, Prifysgol Dwyrain Llundain
Bydd Nira Yuval Davis yn siarad am “The Politics of Belonging: Intersectional Constellations”.
Cyfarwyddwr y Ganolfan Theori Cymdeithasol, Prifysgol Warwick
Bydd Gurminder K. Bhambra yn siarad am “African American Sociology: Identity, Inequality and Emancipation”.
Mae’r prif sesiynau yn rhad ac am ddim. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, yn cynnwys y rhaglen a sut i fod yn bresennol, ewch i http://berg.bangor.ac.uk neu gysylltu â berg@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2012