Darlith gyhoeddus yn canolbwyntio ar Gymru'r oesoedd canol cynnar
Mae hunaniaeth yn destun dadleuol yn y gymdeithas sydd ohoni ac yr un modd mae'n destun dadlau brwd rhwng archeolegwyr yr oesoedd canol cynnar. Dyna fydd pwnc darlith gyhoeddus a roddir gan yr hanesydd blaenllaw, Yr Athro Nancy Edwards, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mawrth, 31 Ionawr am 6.30pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Teitl y ddarlith yw 'Early medieval Wales: material evidence and identity', ac mae croeso i bawb ddod iddi.
Bu’r cyfnod rhwng cwymp rheolaeth y Rhufeiniaid a dyfodiad y Normaniaid yn allweddol o ran esblygiad Cymru, ei hiaith a’i hunaniaeth. Eto i gyd, rydym yn gwybod llai am Gymru c. OC350-1050 nag am unrhyw ran arall o Brydain ac Iwerddon. Bydd yr Athro Edwards yn rhoi sylw i rai agweddau ar y dystiolaeth archeolegol, er enghraifft cerrig arysgrifenedig cynnar, gwaith metel ac aneddiadau, o ran beth y gall ac na all y dystiolaeth ei ddweud wrthym am newid hunaniaeth.
Athro Archaeoleg yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Bangor yw Nancy Edwards. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar archaeoleg Cymru ac Iwerddon. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth am gerrig arysgrifenedig o'r oesoedd canol cynnar yng Nghymru ac ar archeoleg yr eglwys, ac mae'n ysgrifennu llyfr ar hyn o bryd ar Gymru'r oesoedd canol cynnar.
Traddodir Darlith O'Donnell mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2017