DARLITH PENRHYN YN LLWYDDIANT YSGUBOL
“The Pennants of Penrhyn in Jamaica: Power, Profit and People”
Roedd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (SYYC) yn falch iawn o gyd-gynnal darlith Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor eleni a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2016.
Cynhelir y ddarlith gyhoeddus flynyddol i arddangos potensial ymchwil y casgliadau archifol cyfoethog a gedwir gan y Brifysgol. Y siaradwr gwadd eleni oedd Dr. Marian Gwyn, a gwblhaodd ei PhD ym Mangor yn 2014 ar y pwnc ‘The Heritage Industry and the Slave Trade’, yn canolbwyntio ar sut y gellir cyflwyno’r fasnach gaethwasiaeth ar draws yr Iwerydd mewn safleoedd treftadaeth yng Nghymru a Lloegr, yn cynnwys y tai hanesyddol oedd â chysylltiadau â'r planhigfeydd yng nghyfandiroedd America. Roedd Darlithfa Eric Sunderland dan ei sang i glywed cyflwyniad pwerus gan Dr. Gwyn a roddodd ddisgrifiad clir o sut roedd teulu Penrhyn yn rheoli eu planhigfeydd siwgr yn Jamaica, gan ddangos eu cysylltiad â materion yn ymwneud â phŵer, gwleidyddiaeth, elw a phobl.
Mae archif Penrhyn, a oedd yn sail i ymchwil Dr. Gwyn, yn un o'r casgliadau ystadau mwyaf cynhwysfawr yng Nghymru ac mae'n cynnig amrywiaeth o wybodaeth am hanes gogledd orllewin Cymru, a thu hwnt, o'r canol oesoedd hyd at yr ugeinfed ganrif.
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ac Archifau'r Brifysgol wedi ymrwymo i gydweithio i ddatgloi potensial ymchwil y casgliad, sydd ar fin cael ei wneud yn gwbl chwiliadwy am y tro cyntaf diolch i'r project catalogio 'Sugar and Slate' y mae'r archifydd Sarah Vaughan wedi bod yn gweithio arno dros y misoedd diwethaf. Mae'r fenter hon wedi datgelu tystiolaeth 'newydd' bwysig sydd â'r potensial i gynnig safbwyntiau ffres ar nifer o wahanol themâu a materion pwysig.
Mae'r adnodd ymchwil newydd hwn yn dod ar gael ar adeg pan mae gwahanol agweddau ar dreftadaeth ystâd y Penrhyn yn cael eu gosod o dan y chwyddwydr. Mae'r ymgyrch i sicrhau Statws Treftadaeth y Byd UNESCO i ddiwydiant llechi Gwynedd yn dod â phartneriaid at ei gilydd sy'n rhannu diddordeb mewn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol mentrau chwarelyddol teulu Penrhyn, a'u heffeithiau dwfn ar y cymunedau, yr economi, y dirwedd, y seilwaith, yr amgylchedd adeiledig a gwleidyddiaeth y rhanbarth. Ar yr un pryd mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn buddsoddi mewn project 'trawsnewid' pwysig i chwyldroi sut caiff Castell y Penrhyn a'i hanes anesmwyth ar adegau ei gyflwyno i ymwelwyr. Bydd yr ymchwil a'r adnoddau archifol a gynigir gan Brifysgol Bangor yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad y ddwy fenter.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2016