Darlithiwr yn defnyddio trydar i helpu disgyblion astudio
Yn dilyn llwyddiant a phoblogrwydd cyfrif trydar Adolygu Cymdeithaseg, a lansiwyd y flwyddyn ddiwethaf, bydd darlithydd o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor yn ail gychwyn trydar negeseuon adolygu Cymdeithaseg yn y Gymraeg i ddisgyblion Lefel A Cymru yr wythnos hon.
Fel rhan o raglen o waith er mwyn pontio'r bwlch rhwng ysgolion ac astudio Cymdeithaseg yn y brifysgol, bydd Dr Cynog Prys, Cymdeithasegydd sy’n arbenigo yn y defnydd o Gymraeg ar lein, yn cyflwyno cyngor adolygu o’r cyfrif trydar @CymdeithasegUG2 yn ystod y cyfnod cyn arholiadau lefel A yr haf yma.
Bydd y neges drydar cyntaf yn cael ei yrru ar Ddydd Llun, Mawrth 23ain o gyfrif Adolygu Cymdeithaseg a bydd o leiaf un neges trydar yn crisialu gwybodaeth berthnasol am y pwnc yn cael ei ryddhau pob dydd.
Dywedodd Cynog: “Roedd dros 100 o bobl yn dilyn y cyfrif Twitter Adolygu Cymdeithaseg y flwyddyn ddiwethaf ac fe gafwyd ymateb gwych gan fyfyrwyr Lefel A Cymdeithaseg ledled Cymru. Roedd o’n dda eu gweld yn hoffi ac ail-drydar negeseuon ac yn gyrru negeseuon i’w ffrindiau yn sôn am gynnwys defnyddiol y cyfrif. Roeddwn yn hynod o falch ei fod wedi bod o ddefnydd iddynt. Rwyf hefyd wedi mynychu rhai o’r ysgolion ble defnyddiodd y bobl ifanc y ffrwd gan dderbyn adborth gwych ganddynt, gan gynnwys ambell syniad i wella’r ddarpariaeth ar gyfer eleni. Un awgrym a gafwyd oedd cynnwys rhagor o gysylltiadau at wefannau defnyddiol iddynt, a dwi wedi gwneud ymgais i wneud hyn eleni.”
“Yn y flwyddyn gyntaf fe wnes i ganolbwyntio ar ddeunydd a oedd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf Lefel A (sef astudio’r Teulu), ond eleni rwyf wedi ymestyn y ddarpariaeth i gynnwys deunyddiau adolygu i flwyddyn olaf y Lefel A (sef Anghydraddoldeb Cymdeithasol). Os ydych chi’n astudio’r Teulu eleni, dilynwch y negeseuon sy’n defnyddio’r hashnod #SY1 ac #SY4 ar gyfer Anghydraddoldeb Cymdeithasol.”
“Y gobaith yw y bydd y ffrwd trydar o gymorth i'r sawl sy'n astudio'r pwnc yn y Gymraeg ar gyfer ei lefel A, ac yn codi ymwybyddiaeth o bosibiliadau astudio'r pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol.”
https://twitter.com/CymdeithasegUG2
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2015