Darlithydd o Fangor yn Cymryd ei Arbenigrwydd i’r Ffindir
Bu Dr Stefan Machura, Darlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor, yn treulio wythnos fel Darlithydd ar Ymweliad mewn prifysgol Ffinnaidd yn ddiweddar.
Mae Prifysgol y Ffindir Ddwyreiniol yn Kuopio yn bartner Erasmus i Brifysgol Bangor. Trwy gynllun Darlithydd ar Ymweliad Erasmus, gall ysgolheigion treulio cyfnod yn dysgu mewn sefydliadau cyfranogol trwy’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ystod ei gyfnod yn y Ffindir, dysgodd Dr Machura cwrs ar ‘Trosedd a’r Cyfryngau’, lle bu myfyrwyr yn trafod cefndir cymdeithasol a gwleidyddol ffilmiau trosedd megis Young Mr. Lincoln, The Man who Shot Liberty Valance, Open Doors a The Lives of Others. Darfwyd y cwrs gyda darlith ar sut mae’r cyfryngau yn dylanwadu ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyfreithiol, yn seiliedig ar bennod y mae Dr Machura wedi cyfrannu i deitl newydd, Understanding Law in Society: Developments in Socio-legal Studies.
Cynigodd Kuopio amgylchoedd gwahanol iawn i’r rhain yr oedd Dr Machura wedi’u harfer gydag ym Mangor: “Pan gyrhaeddais, roedd yr eira wedi ei bentyrru’n dau fetr yn uchel - gwelais bysgotwyr yn gweithio ar foroedd rhewedig”. Ychwanegodd: “mae Kuopio yn lle diddorol i’w ymweld. Er bod gan y brifysgol pensaernïaeth eithafol fodern, yn y ddinas ei hun mae nifer o hen dai pren a hefyd ambell i adeilad o’r Ymerodraeth Rwsieg.”
Yn ôl ym mis Mawrth, bu’r un cynllun yn weld Dr Tatiana Golova o Athrofa Cymdeithaseg Magdeburg yn yr Almaen yn ymweld â’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yma ym Mangor. Tra yma, cyflwynodd Dr Golova, sy’n ddarlithydd ym Macro-cymdeithaseg, darlithoedd a seminarau ar lefel isradd ac ôl-radd - a bu hithau hyd yn oed yn cyfrannu at un o fodylau Dr Machura. Ymhlith y pynciau darlith oedd 'Transnational cooperation between the Western European and Russian right-wing music scenes' a 'Spatial structuration of social movements'. Bu Dr Golova hefyd yn cynnal gweithdy ar ddulliau ymchwil ethnograffig i fyfyrwyr MA.
Mae arbenigaeth Dr Golova wedi seilio yng nghymdeithaseg wleidyddol a symudiadau cymdeithasol, cymdeithaseg drefol, a radicaliaeth adain dde. Yn ddiweddar, fe gyhoeddwyd ei gwaith ar 'Spaces of collective identity', 'Hate crime in Russia', a 'The right-wing youth music scene in Russia'.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2011