Darlithydd WISERD yn trafod patrymau ymfudiad i Gymru ar BBC Radio Cymru
Bu Dr Robin Mann, Darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ac WISERD ym Mhrifysgol Bangor, yn cymryd rhan yn rhaglen Taro’r Post ar BBC Radio Cymru, lle bu’n trafod ymfudiad i Gymru. Gofynnir i Dr Mann ymateb i ffigyrau newydd gan y Swyddfa am Ystadegau Cenedlaethol sydd yn dangos bod nifer y bobl ddi-Gymraeg sydd yn byw yng Nghymru wedi cynyddu o 25% i 28% rhwng Cyfrifiadau 2011 a 2011. Dadlodd Dr Mann bod y ffigyrau yn ganlyniad o gyfuniad o ffactorau, yn cynnwys ymfudiad lleol, rhanbarthol a rhyngwladol i mewn i ac allan o Gymru.
Darlledwyd y rhaglen ar Ddydd Gwener 6 Mehefin – gwrandewch eto trwy BBC iPlayer: http://www.bbc.co.uk/programmes/b046vglw
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014