Darlithydd yn cyhoeddi gwerslyfr anghonfensiynol
Mae Marcel Stoetzler, Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg, newydd gyhoeddi ei lyfr newydd, Beginning Classical Social Theory, gyda Manchester University Press.
Mae wedi'i fwriadu ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion, yn ogystal â darllenwyr cyffredinol fel gwerslyfr ychydig yn anghonfensiynol: mae'r llyfr yn cynnig ychydig o wybodaeth gefndir gyd-destunol ar dri ar ddeg o ddamcaniaethwyr allweddol, yn amrywio o Comte i Adorno, ond mae'n edrych yn bennaf yn agos iawn ar un testun enghreifftiol gan bob awdur. Mae Beginning Classical Social Theory yn ateb yr angen am lyfr sy'n helpu myfyrwyr i ddatblygu'r gallu i ddarllen theori'n feirniadol, yn hytrach nag un arall eto fyth sy'n dod â phopeth y dylai rhywun ei wybod ynghyd am yr holl brif ddamcaniaethwyr.
Tynnir sylw darllenwyr at y llif o ddadleuon a gwrthddywediadau a chyfyngiadau'r testun. Drwy fynd 'dan groen' un testun allweddol gan bob awdur, bydd darllenwyr yn cael man cychwyn cadarn ar gyfer astudiaeth bellach. Bydd yr awduron dan sylw yn cynnwys Comte, Tocqueville, Durkheim, Tönnies, du Bois, Simmel, Max Weber yn ogystal â Marx, Horkheimer, Adorno a'r damcaniaethwyr ffeministaidd Flora Tristan, Marianne Weber a Simone de Beauvoir.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2017