Dathlu 50 mlynedd o ragoriaeth ymchwil
Cynhaliwyd Diwrnod Ymchwil Ysgol Gyfan gan yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yr wythnos ddiwethaf fel rhan o'i dathliadau hanner canmlwyddiant.
Roedd yr achlysur yn arddangos peth o'r gwaith ymchwil a wneir ar hyn o bryd gan y staff academaidd a'r myfyrwyr doethuriaeth yn yr ysgol, mewn dewis eang o feysydd yn y gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, polisi a chynllunio iaith, heddlua, myfyrwyr yn perthyn a chyfalaf cymdeithasol.
Mynychwyd y diwrnod gan fyfyrwyr o bob lefel o astudio, ac roedd yn llwyfan delfrydol i ddangos pam mae'r ysgol wedi ei gosod ar hyn o bryd yn yr 20 uchaf yn y DU am ymchwil ym maes gwyddorau cymdeithasol (REF 2014).
Anogwyd y myfyrwyr hefyd i wneud eu hymchwil eu hunain drwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth bosteri, gyda gwobrau i'r cynigion gorau ym mhob un o'r tri chategori: trosedd, cyfiawnder troseddol a chymdeithas; cymunedau, diwylliant, iaith a hunaniaeth; ac iechyd, gofal cymdeithasol, lles a chymdeithas.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, Dr Martina Feilzer: "Roedd y Diwrnod Ymchwil yn gyfle gwych i arddangos y gwaith ymchwil cyffrous sydd yn yr Ysgol - o brojectau ôl-raddedig i raglenni ymchwil a ariennir yn allanol. Cynhaliwyd digwyddiad codi arian hefyd ar gyfer un o'n partneriaid ymchwil, Cruse Bereavement Care, a chodwyd dros £500 i'r elusen. Diolchaf i bawb a gyfrannodd, a gymerodd ran, ac a helpodd i wneud y diwrnod yn gymaint o lwyddiant".
I weld rhaglen y dydd yn llawn, a chael crynodebau, ewch ar dudalen y Diwrnod Ymchwil.
Enillwyr y posteri:
Troseddu, cyfiawnder troseddol a chymdeithas: Gabriella Simak (ôl-raddedig)
Cymunedau, diwylliant, iaith a hunaniaeth: Shan Pritchard (ôl-raddedig)
Iechyd, gofal cymdeithasol. lles a chymdeithas: Louise Prendergast (ôl-raddedig)
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2016