Dathlu Canlyniadau Gwych yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr
Mewn blwyddyn pan ddaeth Prifysgol Bangor i’r brig yng Nghymru a chyrraedd y 10 uchaf yn y DU o ran boddhad myfyrwyr, mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas wrthi’n dathlu ei chanlyniadau gwych ei hun yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf.
Yn ôl yr arolwg, sy’n mesur boddhad myfyrwyr yn flynyddol mewn amrywiaeth o feysydd, mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar y safleoedd isod:
- Rhif 1 yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr mewn Cymdeithaseg.
- Rhif 1 yng Nghymru o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr mewn Polisi Cymdeithasol.
Ar ben hynny, enillodd yr Ysgol y canrannau rhyfeddol o 97% am ‘egluro’n dda’ a 93% am ‘addysgu brwdfrydig’.
Mewn blwyddyn hynod o lwyddiannus i’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, yn ddiweddar, barnodd y Times & Sunday Times University Guide 2016 fod Bangor ar yr ail safle i’r gorau yn y DU i astudio Polisi Cymdeithasol. Yn gynharach yn 2015, dangosodd canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil fod Prifysgol Bangor ymysg yr 20 uchaf yn y DU o ran ansawdd ymchwil ym maes gwyddorau cymdeithas.
“Mae’r rhain yn llwyddiannau gwych wrth i 50 mlwyddiant ein Hysgol y flwyddyn nesaf agosáu, ac yn dyst i waith caled, ymrwymiad a brwdfrydedd ein staff academaidd,” medd Dr Martina Feilzer, Pennaeth yr Ysgol. “Yn benodol, dymunwn ddiolch i’n myfyrwyr am eu hadborth rhyfeddol, a byddwn yn ymdrechu i gynnal ein record o ran boddhad myfyrwyr.”
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2015