Dathlu cyfraniadau eithriadol i addysgu a dysgu
Mae naw aelod o staff wedi derbyn gwobr arobryn Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Bangor. Mae'r Cymrodoriaethau Addysgu yn cydnabod pwysigrwydd addysgu a dysgu eithriadol o fewn y Brifysgol, ac yn cael eu gwobrwyo ar sail tystiolaeth o fewn pum categori: Ymestyn, Arloesi, Effaith ac Arweinyddiaeth.
Cafodd yr enwebiadau ar gyfer y Cymrodoriaethau eu gwneud gan y Penaethiaid Ysgol, ac roedd eu tystiolaeth yn cael ei adolygu gan Banel y Cymrodoriaethau Addysgu, wedi ei gadeirio gan Yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Dysgu ac Addysgu. Mae aelodaeth y Panel yn cynnwys Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu y Colegau, aelodau o CELT, y Ganolfan Gwella Addysgu a Dysgu, a chynrychiolwyr o Undeb y Myfyrwyr.
Meddai'r Athro Nicky Callow, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Dysgu ac Addysgu,
"Mae'r rhai sy'n derbyn Cymrydoriaethau eleni yn ymgorffori rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu o fewn Prifysgol Bangor. Heb os mae'r rhain wedi trawsnewid profiadau dysgu ar gyfer myfyrwyr unigol, grwpiau o fyfyrwyr, modiwlau a rhaglenni. Mwy na hynny, mae'r rhai sy'n derbyn y wobr yma wedi gwella ymarfer da i fewn, ac mewn sawl achos, tu hwnt i'n Prifysgol ni. Tra bod derbyn Cymrodoriaeth Addysgu gan Brifysgol Bangor wastad yn gydnabyddiaeth arbennig o ragoriaeth, mae derbyn y wobr o dan amgylchiadau heriol y flwyddyn hon wir yn eithriadol."
Cyflwynir Gymrodoriaethau Addysgu yng Ngholeg Celfyddydau, Dynoliaethau a Busnes eleni i:
Riaz Anwar - Darlithydd Cyfrifeg
Mae Riaz Anwar yn ddarlithydd penigamp. Caiffi glod rheolaidd gan fyfyrwyr am sicrhau bod lles myfyrwyr wrth wraidd popeth y mae hi'n ei wneud. Mae ei hymrwymiad i ragoriaeth wedi ei amlygu drwy ddod yn Gymrawd o'r Higher Education Academy yn 2020, a hefyd cyrraedd y Rhestr Fer yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn 2021.
Yn ystod y pandemig, cymerodd Riaz rôl arweinydd Dysgu Cyfunol ar gyfer yr Ysgol Fusnes, ac mae hi wedi bod yn gefnogol iawn o'i cydweithwyr yn ystod y cyfnod yma, gan redeg sesiynau hyfforddi ar draws yr Ysgol, dangos esiamplau o ymarfer da, a chynnal sesiynau galw-i-mewn i helpu academyddion eraill ddod i'r afael â chymhlethdodau'r maes.
Mae Riaz wirioneddol yn poeni am brofiadau dysgu a nodau ei myfyrwyr ar gyfer y dyfodol, ac yn cael ei hedmygu a'i gwrthfawrogi'n fawr gan ei chyd-weithwyr.
Yr Athro Bruce Vanstone, Pennaeth Ysgol Busnes Bangor
Meddai Riaz, "Mae'n bleser ac yn anrhydedd i mi dderbyn gwobr Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Bangor.
Fy ethos yw gwneud myfyrwyr yn gyfrifol am eu dysgu eu hunain trwy greu lefel eithriadol o uchel o ymgysylltiad yn yr ystafell ddosbarth. Rwy'n annog myfyrwyr i ryngweithio trwy gydol darlithoedd trwy ddefnyddio gweithgareddau byr. Mae fy null hamddenol gobeithio yn gwneud dysgu'n fwy diddorol, ac yn y pen draw yn creu amgylchedd lle mae myfyrwyr yn teimlo'n ddiogel i fynegi eu barn heb boeni am wneud camgymeriadau.
Rwyf wrth fy modd yn datblygu ffyrdd arloesol o ymgysylltu â'm myfyrwyr i sicrhau bod fy sesiynau'n rhyngweithiol. I'r perwyl hyn, rwy'n aml yn tynnu ar fy angerdd am gyfrifeg ac yn defnyddio fy mhrofiad proffesiynol i ddarparu enghreifftiau ymarferol. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i ystyried effaith digwyddiadau cyfredol ar arfer cyfrifyddu.
Cefais fy mhenodi’n Arweinydd Dysgu Cyfunol yn Ysgol Fusnes Bangor ar ddechrau blwyddyn academaidd 2020/21. Fe wnaeth hyn fy ngalluogi i dynnu ar fy mhrofiad helaeth o weithio gyda thechnoleg i gefnogi fy nghydweithwyr i ddefnyddio technoleg i greu amgylchedd dysgu sy'n hyrwyddo cyfranogiad rhyngweithiol ac atyniadol. "
Dr Tim Holmes - Darlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
Mae Tim wastad wedi traddodi modiwlau poblogaidd ar drosedd trawswladol, carcharu, a chosb yng nghymdeithas. Ond mae ei waith wrth ddatblygu ein rhaglenni plismona yn sefyll allan. Mae ei ymdrechion yn amhrisiadwy i’r Ysgol, y Brifysgol ac i Heddlu Gogledd Cymru. Mae rhoi'r Gymrodoriaeth Addysgu iddo yn adlewyrchu ar ei gyflawniadau, ei ymdrech a'i ymrwymiad.
Yr Athro Peter Shapely, Pennaeth Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol
Ychwanegodd Tim, "Diolch am fy newis i dderbyn y wobr hon, mae'r flwyddyn ddiwethaf o addysgu wedi bod yn heriol ac yn werth chweil mewn sawl ffordd. Pan gynigiwyd y rhaglenni gradd plismona yn y lle cyntaf, cyn-Covid, roeddem yn rhagweld rhaglen wirioneddol gydweithredol yn gweithio gyda North Heddlu Cymru. Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cynnal yr ethos hwn trwy'r cyfnod clo, y broses o ddilysu'r graddau plismona a dechrau ein blwyddyn gyntaf o ddysgu. Mae gweithio gyda'r Athro Martina Feilzer, Julie Brierly, Steve Nash, Rob Darnell a a hyfforddwyr a staff Heddlu Gogledd Cymru fel tîm datblygu ar y cyd ar hyn wedi bod yn brofiad gwych. "
Dr Eirini Sanoudaki - Uwch Ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth
Mae Dr Eirini Sanoudaki yn athro eithriadol sydd yn mynd tu hwnt i’r gofyn wrth addysgu a chefnogi ein myfyrwyr, ac mae’n dda iawn gan yr ysgol felly ei bod hi wedi derbyn yr ysgoloriaeth hon.
Mae ei harddull addysgu yn ddeinamig, yn ymroddgar ac yn hwyl ac mae myfyrwyr yn ddi-ffael yn ei hoffi. Mae gwerthuso diweddar am ei haddysgu yn cynnwys sylwadau fel “mae dulliau addysgu Eirini yn ardderchog” ac yn golygu bod “pawb yn gallu canolbwyntio...heb deimlo’n nerfus”. Mae’n gwneud gwersi yn “ddeniadol iawn” ac yn ystod Addysgu Cyfunol mae hi wedi darganfod ffyrdd blaengar i sicrhau bod myfyrwyr yn rhyngweithio ar-lein wrth ddysgu am ieithyddiaeth.
Mae Eirini yn siarad Groeg fel mamiaith; ers dechrau gweithio ym Mangor mae hi wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Unrhyw beth y gallai hi ei wneud drwy’r Gymraeg, mi wneith hi, o ysgrifennu e-byst i addysgu. Mae hi’n weithgar hefyd wrth hybu’r brifysgol ar y cyfryngau Cymraeg ac ymddangosiadau cyhoeddus. Mae Eirini yn cyfrannu’n enfawr i gymuned amlieithog weladwy o fewn yr ysgol a’r brifysgol ehangach, a gafodd ei gydnabod yn ddiweddar pan yr enillodd hi wobr genedlaethol am ddefnyddio Cymraeg yn y gweithle.
Rhan o genhadaeth Eirini ym Mangor yw i greu a chynnal cymuned o fyfyrwyr ymchwil olradd (YORau) ar draws yr ysgol, yn ei rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Ymchwil Olradd. Canlyniad i ymdrechion Eirini yw i foddhad YORau yn yr ysgol gynyddu dros amser, fel yr ardystia canlyniadau’r arolygon PRES flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae hi wedi llwyddo i sicrhau cysondeb profiad i YORau yr ysgol, gan ddarparu’r gefnogaeth a’r strwythur maen nhw ei angen er mwyn ffynnu.
Mae’n amlwg felly bod Eirini wedi cael effaith bositif a pharhaol ar brofiad ein myfyrwyr o Fangor drwy ei gwaith diflino, ei phositifrwydd a’i chydweithgarwch, ac yn ddi-amau bydd hi’n parhau i wneud hynny. Mae’r ysgol yn falch iawn o Eirini – da iawn ti.
Dr Peredur Webb-Davies - Cyd-bennaeth mewn gofal Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau, Ieithyddiaeth a’r Cyfryngau
Ychwanegodd Eirini, "Mae'n anrhydedd i mi dderbyn Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Bangor ac rwyf wedi cael fy nghyffwrdd gan garedigrwydd fy nghydweithwyr wrth fy enwebu. Prifysgol Bangor yw fy nghartref amlieithog, amlddiwylliannol ers dros ddegawd, a dysgais gymaint gan y myfyrwyr yr wyf yn eu dysgu, yr ymchwilwyr ôl-raddedig rwy'n eu cefnogi a chan fy nghydweithwyr rhyfeddol. Ni allwn ddychmygu lle brafiach i weithio, dysgu a thyfu!"
Llongyfarchiadau i chi oll!
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2021