Dau semester ym Mhrifysgol Bond yn Awstralia
Gan Alex Wuergler o Davos, Switzerland
BA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol gyda Phrofiad Rhyngwladol (Blwyddyn 4)
Fel rhan o fy mlwyddyn profiad rhyngwladol, treuliais ddau semester, rhwng Mai a Rhagfyr, ym Mhrifysgol Bond yn Awstralia. Yno llwyddais i wneud nifer o ffrindiau, dysgu llawer am ddiwylliant a throseddeg, a chael amser bythgofiadwy. Rwyf wedi cyrraedd nôl erbyn hyn ond rwyf eisoes yn ei fethu!
Roedd astudio ym Mhrifysgol Bond yn debyg ond eto'n wahanol i fywyd myfyrwyr ym Mangor. Nid yw Prifysgol Bond yn brifysgol fawr chwaith ac mae'n cynnwys tua 4,000 o fyfyrwyr. Mae’n brifysgol breifat gyda dosbarthiadau eithaf bach, anogir myfyrwyr i gymryd rhan weithredol ac mae'n aml yn rhan o'r radd. Ynghyd â phapurau ac arholiadau, mae cyflwyniadau yn ffordd gyffredin o asesu. Mae Bond yn brifysgol ar un campws. Mae hyn yn golygu nad yw'r myfyrwyr sy'n byw mewn neuaddau bron byth yn gadael y campws. Maent yn byw, astudio a bwyta yno. Mae manteision ac anfanteision i hyn fel yr amlinellir isod. Mae'r hinsawdd wrth gwrs yn wahanol iawn ac yn llawer cynhesach na gogledd Cymru. Mae'r bobl, y myfyrwyr a'r bobl leol, yn hynod o gyfeillgar gydag agwedd hamddenol tuag at fywyd. Mae llawer ohonynt yn wreiddiol o dramor gyda naill ai nhw neu eu rhieni wedi ymfudo i Awstralia. Mae 40 y cant o'r myfyrwyr yn fyfyrwyr rhyngwladol.
Yr Arfordir Aur
Mae gan ddinas yr Arfordir Aur 640,000 o drigolion ac mae popeth sydd ei angen ar gael yno. Mae yno draethau hardd ar gyfer syrffio a nofio, canolfannau siopa, sinema, bwytai, sawl parc antur, clybiau, mynyddoedd a choedwigoedd yn yr ardal i orllewin y ddinas a llawer mwy. Daw nifer o drigolion Awstralia i'r Arfordir Aur i dreulio eu gwyliau. Mae Brisbane, prif ddinas Queensland, dim ond 90 munud o ogledd y ddinas ac mae'n werth mynd yno ar ambell ymweliad. Mae'r ddinas Arfordir Aur yn Queensland yn nwyrain Awstralia. Mae'r hinsawdd yn isdrofannol a llaith, ac mae'n eithaf gwyntog ar y campws. Mae'n heulog y rhan fwyaf o'r amser a bron byth yn bwrw glaw. Os bydd hi'n bwrw glaw mae'n aml ar ffurf stormydd mellt a tharanau. Mae'r gaeaf yn Awstralia, sef Mehefin, Gorffennaf ac Awst, yn ddymunol gyda thymheredd rhwng 20 a 24 gradd. Mae'r hafau yn gynnes rhwng 25 a 30 gradd.
Bywyd ar y campws
Yr hyn rwyf yn ei fethu fwyaf am fy nghyfnod yn Awstralia yw fy ffrindiau ym Mhrifysgol Bond. Pan fyddwch yn astudio dramor rydych yn fwy tebygol o dreulio amser gyda myfyrwyr rhyngwladol eraill. Rwy'n mwynhau gwneud ffrindiau yn gyffredinol, ond mae cwrdd â phobl o bob rhan o'r byd hyd yn oed yn well. Yn fwy na dim, mae'n golygu bod pawb yn dod o gefndir gwahanol. Os ydych yn rhywun meddwl-agored, gallwch ddysgu am wahanol ddiwylliannau a ffyrdd o fyw sy'n wahanol iawn i'ch bywyd eich hun. Oeddech chi’n gwybod, er enghraifft, bod pobl India wedi'u rhannu i wahanol gastau yn seiliedig ar ddosbarthiad eu rhieni? Nid oes bron byth priodasau rhwng y categorïau hynny, hyd yn oed yn yr unfed ganrif ar hugain. Hefyd mae llawer o rieni Tsieineaidd yn anfon eu plant i gael addysg uwchradd yn Awstralia oherwydd bod cymaint o gystadleuaeth a phwysau ar y myfyrwyr yn Tsieina. Ffaith ddiddorol arall yw bod un o bob tri o drigolion Awstralia wedi'u geni dramor. Bûm yn trafod y gwahaniaethau diwylliannol hyn a llawer mwy wrth gymdeithasu gyda fy ffrindiau ar y campws.
Gan fod Bond yn brifysgol ar un campws, nid yw'r myfyrwyr bron byth yn gadael y brifysgol ac maent yn treulio llawer o'u hamser yn cymdeithasu. Nid oes gan y rhan fwyaf o'r myfyrwyr sy'n byw mewn neuaddau preswyl gyfleusterau coginio felly maent yn bwyta yn y caffi "Lakeside" neu'r barbeciw wythnosol am ddim - rhan hanfodol o ddiwylliant Awstralia! Felly roeddwn fel rheol yng nghwmni fy ffrindiau ym mhob man, yn y caffi, y llyfrgelloedd, yn ein hystafelloedd, yn y gampfa a'r clwb nos/bar ar y campws. Roeddwn hefyd yn rhannu ystafell a oedd yn brofiad hollol newydd. Roeddwn braidd yn amheus ar y dechrau a fyddai hyn yn gweithio ai peidio - beth pe byddem yn mynd ar nerfau'n gilydd drwy'r amser? Ond roedd yn anhygoel ac roeddem yn cyd-dynnu'n dda. Yr unig anfantais a welaf o fod ar y campws drwy'r amser yw y gall bywyd fod braidd yn ynysig oddi wrth weddill y byd. Wrth gwrs, roeddem bob amser yn clywed y newyddion ac yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen yn Ewrop, yr Unol Daleithiau neu Tsieina, ond roeddem yn anghofio am weddill y ddinas neu sut yr oedd pobl o'n hamgylch yn byw. Weithiau, roeddem yn teimlo ein bod yn byw mewn swigen, wedi ein diogelu'n dda, ond ar wahân i'r tu allan. Gan fy mod wrth fy modd gyda dawnsio tango a salsa, roedd rhaid i mi adael y campws yn rheolaidd ac felly cefais gyfle i ddod i adnabod llawer o bobl leol. Bûm yn teithio llawer hefyd gan ymweld â'r rhan fwyaf o'r llefydd poblogaidd i heicwyr fel y Great Barrier Reef, Ulure, Whitsunday Islands, Melbourne a Sydney wrth gwrs a llawer mwy, a dyma pryd dechreuais werthfawrogi a charu'r Awstraliaid. Maen nhw'n anhygoel o gyfeillgar a chymwynasgar. Un tro, er enghraifft, roeddwn yn eistedd ar fws ac roedd gwraig oedrannus wedi anghofio mynd allan yn yr orsaf iawn. Felly dyma'r gyrrwr bws yn troi rownd wrth y gylchfan nesaf a gyrru nôl 500 metr, gollwng y ddynes ac yna parhau gyda'r daith arferol. Roeddwn yn meddwl bod hyn yn eithriadol o garedig am ddau reswm. Yn gyntaf, adre yn y Swistir, ni fyddai gyrrwr bws byth yn gwneud hyn gan y byddai'n arwain at oedi yn yr amserlen. Yn ail, os byddai'r bws yn troi rownd am unrhyw reswm, byddai'r teithwyr yn debygol iawn o ddechrau cwyno am yr oedi. Ond yn Awstralia, mae popeth yn llawer mwy hamddenol. Ni fyddai llawer o wahaniaeth ganddynt pe bai'r bws yn cyrraedd yr orsaf derfynol ychydig funudau'n gynharach neu'n hwyrach, ond mae caredigrwydd at bobl yn bwysig iddynt.
Os wnewch chi benderfynu mynd i brifysgol sydd ar gampws, byddwn yn bendant yn argymell eich bod yn gwneud rhywbeth yn eich amser hamdden y tu allan i'r campws lle gallwch gwrdd â phobl eraill. Does dim gwahaniaeth beth, gall fod yn gwylio gemau rygbi (yn y caeau), syrffio, cerdded, neu fel yn fy achos i, dawnsio a theithio. Mae'n eich helpu i ddeall llawer mwy am yr hyn sydd o'ch cwmpas, y wlad a'r diwylliant lle byddwch yn treulio eich cyfnod cyfnewid.
Gallaf gadarnhau'n bendant bod astudio dramor yn gyfle anhygoel. Cewch gyfarfod â phobl o wahanol gefndiroedd, dysgu am ddiwylliannau eraill a chael profiad o fywyd o safbwynt newydd. Os cewch y cyfle dylech ei gymryd yn bendant, dim gwahaniaeth lle na phryd!
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am eich cyfleoedd i astudio neu weithio dramor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2018