Dod â Gwyddorau Cymdeithas yn fyw ym Mangor
Cafodd disgyblion chweched dosbarth o bob cwr o Ogledd Cymru gyfle i elwa ar gyflwyniad cynhwysfawr i wyddorau cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor.
Daeth dros 100 o ddisgyblion i Ddiwrnod Gwŷl yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar ddydd Mercher, 9 Tachwedd, lle cawsant eu harwain gan staff a myfyrwyr Bangor drwy gyfres o sesiynau rhyngweithiol ym meysydd cymdeithaseg, troseddeg a gofal iechyd a chymdeithasol.
Nod yr achlysur oedd cyflwyno'r disgyblion i'r ymchwil ddiweddaraf sy'n siapio'r disgyblaethau hyn, a hyd yn oed eu hannog i gyfrannu eu hunain at astudiaethau cyfredol.
Er bod athrawon fel arfer wrth gwrs yn gofyn iddynt roi eu ffonau clyfar i ffwrdd, cafodd defnyddio ffonau symudol ei gymell yma, ac roedd y defnydd o'r Gymraeg ar draws llwyfannau digidol yn un o'r pynciau a archwiliwyd.
Roedd plismona cudd, troseddu gwledig, anghydraddoldeb cyfoeth a gwahaniaethu yn rhai o'r pynciau dan ystyriaeth, gyda gweithgareddau grŵp wedi'u cynllunio i feithrin sgiliau ymchwil a chyflwyno’r disgyblion ynghyd â dadansoddi data.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, Yr Athro Martina Feilzer: "Roeddem eisiau defnyddio'r diwrnod hwn i ddod ag ymchwil i'r gwyddorau cymdeithas yn fyw, ac i ddangos i bobl ifanc yr hyn rydym yn ei wneud, sut mae'n berthnasol iddynt, a sut y gallant gyflwyno gwaith ymchwil i'w hastudiaethau eu hunain.
"Roedd yn ddiwrnod hwyliog o gymryd rhan mewn ymchwil gwyddorau cymdeithas a dysgu amdani."
Cafodd ei noddi gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), ac roedd yn un o dri digwyddiad a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC trwy Brydain.
Roedd y ddau arall yn cynnwys cystadleuaeth ffotograffiaeth a barddoniaeth ar thema 'Safbwyntiau' oedd yn agored i unrhyw un dros 18 mlwydd oed; a chynhadledd chweched dosbarth oedd yn canolbwyntio ar agweddau'n cynnwys bwyd, ynni, teuluoedd, plant a phobl ifanc, tai ac addysg.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2016