Dosbarth 2015: gwobrau a ddyfarnwyd i israddedigion gorau'r flwyddyn
Llongyfarchiadau i'n holl fyfyrwyr a raddiodd o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yr wythnos ddiwethaf.
Yn dilyn y seremoni raddio cafwyd derbyniad i'r graddedigion a'u teuluoedd yn y Ganolfan Rheolaeth, lle cyflwynwyd gwobrau i'r israddedigion a berfformiodd orau yn y flwyddyn. Roedd y rhain yn cynnwys y myfyriwr gradd a gyflawnodd orau yn ystod y flwyddyn, yr holl fyfyrwyr a gafodd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf a'r myfyriwr a gynhyrchodd aseiniad gorau'r flwyddyn.
Rhoddwyd gwobrau hefyd i'r myfyrwyr a gyflawnodd orau ym Mlwyddyn 1 a Blwyddyn 2.
Mae staff yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn dymuno pob llwyddiant i ddosbarth 2015 gyda'u hymdrechion yn y dyfodol.
ENILLWYR GWOBRAU I ISRADDEDIGION 2015
Myfyriwr a raddiodd gyda'r marciau uchaf: Bryn Moore
Myfyriwr sydd wedi ennill mwyaf o farciau yn gyffredinol ym Mlwyddyn 1: Norramon Tengcharoensuk
Myfyriwr sydd wedi ennill mwyaf o farciau yn gyffredinol ym Mlwyddyn 2: Julie Jones
Myfyrwyr a gafodd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf: Nicole Hughes, Rebecca Pierce, Alice Kierle, Hannah S Jones, Daron Owens, Ana Potcoava, Sheree Ellingworth, Anna M V Jones, Joseph Heaford, Sarah Powell, Eilish Wade, Naomi A Parry
Yr aseiniad gorau: Peter Lindop
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2015