Dosbarth cymdeithasol yn rhwystr i heneiddio llwyddiannus
Mae ymchwil gan Ian Rees Jones, Athro Cymdeithaseg yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, a chydweithwyr yng Ngholeg y Brifysgol Llundain, wedi dangos bod gwell cyfleusterau addysg a thai, a gwella amodau materol pobl drwy lefelau incwm a phensiwn uwch, yn gallu cael mwy o effaith er gwell ar iechyd y boblogaeth nag ymyriadau wedi’u hanelu at newid ymddygiadau iechyd unigolion. Fel rhan o broject a gyllidwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol roedd ei ddadansoddiad wedi’i seilio ar set gymhleth o ddata a gafwyd drwy arolwg o ddynion canol oed o 24 tref ym Mhrydain (The British Regional Heart Survey – a gasglwyd rhwng 1978 – 2003).
Darganfu’r ymchwil ei bod yn ymddangos bod ysmygu, ymarfer ac yfed alcohol ymysg dynion 60 i 70 oed yn gysylltiedig â'u hymddygiad pan oeddent rhwng 40 a 59 oed, a bod hyn yn gysylltiedig â dosbarth hefyd. Er enghraifft, mae glynu am gyfnod maith wrth ffyrdd o fyw iach yn fwy cyffredin ymysg dynion dosbarth canol mewn trefi yn ne Prydain. Fe wnaeth tîm ymchwil yr Athro Jones hefyd ddarganfod cysylltiad rhwng lefelau iechyd, lles a chysylltiadau cymdeithasol pobl hŷn a’u hamgylchiadau ymddeol – p’un a oeddent wedi ymddeol yn wirfoddol neu o ganlyniad i salwch neu ddiweithdra, yn ogystal â lefel eu pensiwn.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2011