Dosbarth graddedigion 2013 o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas
Ddydd Llun, 15 Gorffennaf 2013, graddiodd 118 o fyfyrwyr o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor.
Eleni enillodd 15 o'r myfyrwyr raddau Dosbarth Cyntaf, a chyflwynwyd gwobrau o docynnau anrheg gwerth £20 iddynt gan Bennaeth yr Ysgol, Dr Catherine Robinson.
Un o'r rhain oedd myfyrwraig hŷn, Eira Winrow, a astudiodd am radd BA mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol. "Roedd y cwrs yn gryn her i mi ar sawl lefel. Fel myfyrwraig hŷn wnes i erioed feddwl y gallwn i gyflawni cymaint yn academaidd ac mae'r cwrs hefyd wedi gwneud i mi gwestiynu fy marn a fy safbwyntiau am gymdeithas a'r byd o'm hamgylch i," meddai Eira o Fangor, a fydd yn dychwelyd i'r brifysgol ym Medi i ddechrau cwrs MA mewn Polisi Cymdeithasol.
Hefyd yn graddio gydag anrhydedd Dosbarth Cyntaf roedd Sophie Hughes a Sioned Williams, y ddwy'n astudio'r radd BA cyfrwng Cymraeg mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol. “Fy mhrif reswm yn dewis Bangor oedd y ddarpariaeth ragorol i astudio drwy'r Gymraeg," meddai Sophie, o Forfa Bychan. "Doeddwn i erioed wedi astudio'r pwnc o'r blaen ac felly roedd yn risg - ond roedd yn risg wnaeth dalu ar ei chanfed. Yn sicr fe wnes i'r penderfyniad iawn ac mae'r tair blynedd ddiwethaf ym Mangor wedi bod yn gyfnod gorau fy mywyd."
"Mae'r gefnogaeth gan y darlithwyr wedi bod yn wych," meddai Sioned Williams, un o gyfeillion Sophie ar y radd cyfrwng Cymraeg. "Roedden nhw bob amser yn barod i helpu, naill ai wyneb yn wyneb neu drwy e-bost. Roeddwn wrth fy modd efo'r cwrs - roedd y dosbarthiadau'n weddol fychan ac felly roeddem fel myfyrwyr yn datblygu perthynas agos gyda'n darlithwyr. Ar ben hynny, roedd y pynciau roeddem yn eu hastudio'n ddiddorol ac amrywiol iawn." Bydd Sophie a Sioned yn dychwelyd i Fangor ym Medi i astudio am MA mewn Polisi a Chynllunio Iaith yn yr Ysgol.
Fe wnaeth Rhys Taylor, myfyriwr cydanrhydedd o Bontypridd, astudio Polisi Cymdeithasol a Hanes. "Roedd fy nghwrs yn fy mhlesio'n fawr gan ei fod yn rhoi cyfle i mi astudio pethau roedd gen i wir ddiddordeb ynddyn nhw, ac roedd yna gymaint o ddewis o ran modiwlau," meddai Rhys, sy'n gobeithio mynd ymlaen i yrfa mewn ymchwil a datblygu polisi. "Y peth gorau am yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas a'r Ysgol Hanes oedd bod gan y rhan fwyaf o'm darlithwyr brofiad ymarferol yn y meysydd roedden nhw'n eu dysgu, neu wedi gwneud gwaith ymchwil ynddyn nhw."
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2013