Dr Rebecca Thomas yn ennill Gwobr Ysgrif O’r Pedwar Gwynt 2021.
Llongyfarchiadau i Dr Rebecca Thomas, Cymrawd ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ar ennill Gwobr YsgrifO’r Pedwar Gwynt(mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol) am ei hysgrif, ‘Cribo’r Dragon’s Back’. Cyhoeddir yr ysgrif fuddugol yn rhifyn gaeafO’r Pedwar Gwynt a gyhoeddir ddydd Sadwrn, 11 Rhagfyr 2021.
Meddai Dr Thomas: ‘Mae’n fraint arbennig ennill y gystadleuaeth gyffrous hon, a braf iawn yw cael rhannu fy ysgrif gyhoeddedig gyntaf, sef Cribo’r Dragon’s Back. Taith gerdded yn y Mynyddoedd Duon yw pwnc yr ysgrif, ac ynddi rwy’n adlewyrchu ar y broses o newid iaith enwau lleoedd a chreu chwedloniaeth newydd yn gysylltiedig â’r tirwedd. Rwy’n ddiolchgar iawn i O’r Pedwar Gwynt a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y cyfle i arbrofi gyda’r ffurf hon o gyfansoddi, ac yn edrych ymlaen yn arw at barhau i ysgrifennu a datblygu syniadau newydd.’
Beirniaid y gystadleuaeth oedd Mererid Puw Davies (Athro mewn Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain), y llenor a’r bardd Gwyneth Lewis, yr awdur a’r bardd Llŷr Gwyn Lewis a Sioned Puw Rowlands (Golygydd O’r Pedwar Gwynt).
Meddai Llŷr Gwyn Lewis,‘Fel un sy’n hoff o fynydda fy hun, roedd cael darllen ysgrif dreiddgar fel hon yn bleser. Creigiau Eryri neu gopaon canolog y Bannau sy’n denu’r ysgrifwyr yn amlach na heb, ac amheuthun felly oedd cael dringo Waun Fach a Phen y Gadair Fawr yng nghwmni Rebecca. A dyna i chi gwmni, a llais, difyr dros ben sy’n anelu am gopaon llai treuliedig y meddwl hefyd, gan gynnig inni ystyriaeth gyfoes a sensitif o’r hyn a alwyd gan J R Jones yn gydymdreiddiad iaith a thir, ac ailystyriaeth hefyd o honiad enwog Waldo Williams am ein mynyddoedd:‘Ni fedr ond un iaith eu codi, / A’u rhoi yn eu rhyddid yn erbyn wybren cân’.
Meddai Mererid Puw Davies am y gwaith buddugol: ‘Mae’r ysgrif fuddugol yn mynd i dir uchel ar sawl cyfrif. Ar y naill law mae’n ein tywys am dro i’r mynyddoedd, yn llythrennol felly. Ar y llaw arall, mae’n codi cwestiynau treiddgar am iaith, am dirlun ac am newid. A dreigiau.’
Meddai Gwyneth Lewis: ‘Mae’r gallu i gyfansoddi ysgrif glir, ddychmygus a gwreiddiol yn hanfodol i ddyfodol llenyddiaeth. Mae ymarfer y ddisgyblaeth o feddwl yn feirniadol, er mwyn galluogi rhywun arall i weld y byd mewn ffordd ffres a chyfoethog, yn rhan o’r ddeialog ac yn sail hanfodol i’n gwleidyddiaeth a’n cymdeithas. Does dim ots beth yw’r testun, y daith drwy’r meddwl yw’r pwynt, er ein lles ni gyd. Dyma gystadleuaeth holl bwysig.’
Mae Dr Thomas yn brysu ag amryw brosiectau ar hyn o bryd ac yng ngwanwyn 2022, cyhoeddirei chyfrol History and Identity in Early Medieval Wales, ac y flwyddyn nesaf, cyhoeddir ei nofel hanesyddol ganoloesol i oedolion ifanc.
A gwych o beth yw gweld academydd o Fangor yn llwyddo yn y gystadleuaeth, yn enwedig o gofio bod cysylltiad agos iawn rhwngO’r Pedwar Gwynt ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y brifysgol.
Edrychwn ymlaen at ddarllen mwy o waith Dr Rebecca Thomas yn y dyfodol agos.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2021