Drink a Glass of Water for World Kidney Day
Mae Diwrnod Arennau'r Byd (9 Mawrth 2017) yn ddigwyddiad blynyddol sy'n cael ei gynnal ledled y byd i addysgu a chodi ymwybyddiaeth a chaiff ei gynnal ar yr ail ddydd Iau ym mis Mawrth. Bob blwyddyn, cynhelir digwyddiadau dirifedi yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan elusennau arennol, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, grwpiau cleifion ac unigolion sydd eisiau gwneud gwahaniaeth.
Oeddech chi’n gwybod? Mae eich arennau...
- Yn cynhyrchu wrin
- Yn cael gwared ar wastraff a hylif ychwanegol o'r gwaed
- Yn rheoli cydbwysedd cemegol y corff
- Yn helpu i reoli eich pwysedd gwaed
- Yn helpu i gadw eich esgyrn yn iach
- Yn helpu i gynhyrchu celloedd coch y gwaed
Yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, mae Uned Ymchwil Arennol Cymru dan arweiniad yr Athro Jane Noyes yn cefnogi ymchwilwyr i edrych ar iechyd a gofal cymdeithasol pobl sy'n byw gyda chlefyd yr arennau.
Esboniodd yr Athro Jane Noyes: "Mae'r gwaith rydw i yn ei wneud ar hyn o bryd gydag Uned Ymchwil Arennol Cymru yn cynnwys hyrwyddo ymchwil i agweddau iechyd a gofal cymdeithasol byw gyda chlefyd yr arennau. Rydw i'n falch iawn o fod yn gallu annog pawb i ymuno â'r ymgyrch 'Yfwch Wydraid o Ddŵr' i atal clefyd yr arennau a chefnogi Diwrnod Arennau'r Byd.
Mae yfed dŵr yn hanfodol er mwyn i'r arennau weithio. Nid yw llawer o bobl yn yfed digon o ddŵr bob dydd. Os nad yw'r arennau'n gweithio'n iawn, gall sylweddau gwastraff a hylif gormodol gasglu yn y corff.
Drwy godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ein harennau rydym yn gobeithio gwella ein hiechyd cyffredinol a lleihau amlder ac effaith clefyd yr arennau a phroblemau cysylltiedig o ran iechyd a gofal cymdeithasol ledled y byd.
Dangoswch eich cefnogaeth a rhowch y gair ar led!
Yfwch wydraid o ddŵr a dangoswch eich cefnogaeth ar twitter #@kidneydayUK-
Neu Facebook: https://www.facebook.com/worldkidneydayuk"
Bwth lluniau
Mae ap "Bwth Lluniau" Diwrnod Arennau'r Byd yn gadael i chi greu llun unigryw i'w rannu ac i ddangos eich cefnogaeth https://play.google.com/store/apps/details?id=com.app.wkd
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2017