Dyfarnu grant pwysig i brosiect 'smART cities and waste'
Dyfarnwyd grant rhwydwaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau sy'n werth £37,449 i Dr Alexandra Plows ar gyfer prosiect 'smART cities and waste'.
Bydd y grant sylweddol hwn yn galluogi datblygu rhwydwaith ryngddisgyblaethol o artistiaid, gwyddonwyr, cymdeithasegwyr, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr o Ewrop sydd â diddordeb mewn arloesi er mwyn rheoli gwastraff trefol.
Bwriad rhwydwaith 'smART cities and waste' yw canfod ffyrdd i wahanol ddisgyblaethau lywio profiad ac arferion gwaith ei gilydd, a hyrwyddo arloesedd a'r 'arferion gorau' drwy gyfnewid gwybodaeth mewn modd strwythuredig, gan gynnwys dulliau arloesol i gynnwys y cyhoedd.
Dros y ddwy flynedd nesaf, cynhelir gweithdai mewn pedair dinas yn Ewrop: Amsterdam, Maastricht, Llundain a Bangor. Bydd digwyddiadau dros dro hefyd yn cael eu cynnal i alluogi bwydo 'gwybodaeth leol' y cyhoedd i mewn i'r rhwydwaith.
Mae gwefan wici ryngweithiol y prosiect yn weithredol bellach ac yn gweithredu fel prif borth cyfathrebu'r rhwydwaith: http:smartcitiesandwaste.com/doku.php
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2016