Dyfarnu medalau Cwmni'r Brethynwyr i fyfyrwyr Prifysgol Bangor
Cyflwynwyd medalau Cwmni'r Brethynwyr i ddau fyfyriwr o Brifysgol Bangor. Mae Cwmni'r Brethynwyr yn un o gwmnïau lifrai hanesyddol dinas Llundain, ac sydd bellach yn sefydliad dyngarol. Bob blwyddyn mae Cwmni'r Brethynwyr, yn garedig iawn, yn rhoi dwy fedal i’w dyfarnu i fyfyrwyr ôl-radd nodedig. Mae'r gwobrau clodwiw hyn yn rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth myfyriwr i’r Brifysgol a’r gymuned.
Mae'r cwmni wedi bod yn gysylltiedig â’r Brifysgol ers dros gan mlynedd, i ddechrau trwy grantiau sylweddol tuag at adeiladu rhai o brif adeiladau'r brifysgol, yn cynnwys y llyfrgell, labordai gwyddoniaeth a'r adran peirianneg drydanol.
Cyflwynwyd y medalau gan yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor, a dywedodd: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Brethynwyr am eu cefnogaeth barhaus i’r Brifysgol hon a’n myfyrwyr. Rydym yn falch iawn bod ganddynt ddiddordeb mawr yn natblygiadau'r brifysgol ac yn cael eu hysbrydoli gan ein myfyrwyr canmoladwy.”
Derbyniodd Megan Baker sy’n dod o Poole yn Dorset ac yn astudio yn yr Ysgol Gwyddorau'r Eigion y fedal arian. Pwnc PhD Megan yw rôl y gwahanol fathau o glai 'gwlyb' gludiog gyda symudiad tirlithriadau tanddwr, a'u defnydd mewn peirianneg forol ac archwilio hydrocarbon.
Enwebwyd Megan gan Dr Jaco Baas, Darllenydd yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion, a ddywedodd: "Yn ddi-os mae Megan yn un o'r ymchwilwyr ifanc mwyaf addawol sydd wedi datblygu yn yr Ysgol yn y ddegawd ddiwethaf. Ar ôl graddio gyda graddau eithriadol o uchel ar lefel BSc ac MSc, mae wedi parhau i ddisgleirio fel ymgeisydd PhD. Erbyn hyn mae ar ddechrau ei thrydedd flwyddyn ac mae wedi dod yn adnabyddus yn rhyngwladol fel gwaddodegwr ffisegol.
"Cyhoeddodd Megan ei phapur cyntaf yn ddiweddar, ac mae'n bwriadu cyhoeddi tri phapur arall yn 2018. Mae ei hymchwil yn hanfodol i wahanol ddisgyblaethau gwyddonol, ac mae ei gwaith eisoes wedi ennill clod gan y diwydiannau mwyn clai a hydrocarbon, daearegwyr morol dwfn, a pheirianwyr hydrolig.
"Mae ei phroffil ymchwil cynyddol yn seiliedig ar ei gwaith caled ym Mangor a thu hwnt hefyd gan eu bod wedi gwneud ymchwil a chael hyfforddiant yn Southampton, Cernyw, Suffolk, Aberystwyth, yr Iseldiroedd, Norwy, Ffrainc a'r Almaen.
Roedd Megan yn falch iawn o dderbyn y wobr hon ac meddai: "Rwyf wedi cael llawer o hwyl yn gweithio tuag at fy PhD yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion sydd yn adran wych i weithio ynddi. Rwy'n ddiolchgar am y cyfleoedd mae fy ngoruchwyliwr Dr Jaco Baas wedi eu sicrhau i mi, ac am ei frwdfrydedd ac ymroddiad i'r project PhD a fy natblygiad fel ymchwilydd.
"Wrth wneud fy PhD rwyf wedi cynnal arbrofion yn y labordy sy'n efelychu tirlithriadau tanddwr a cheisio deall sut mae newid y canrannau o wahanol fathau o waddod yn y tirlithriadau yn effeithio ar sut maent yn ymddwyn. Rwy'n hoffi'r agwedd datrys problemau ar waith labordy yn ogystal ag addysgu a goruchwylio myfyrwyr israddedig a myfyrwyr meistr i gynnal eu harbrofion eu hunain. Rwyf hefyd yn cynnal gwaith maes daearegol yn edrych ar waddodion tirlithriadau tanddaearol hynafol ac yn ceisio deall y prosesau a ffurfiodd y dyddodion. Rwy'n mwynhau'r rhan hon o'r PhD gan ei bod ychydig fel gwaith ditectif, mae'n rhaid i chi weithio yn ôl o'r dystiolaeth sydd o'ch blaen.
"Rwyf hefyd wedi manteisio ar gyfleoedd i gyflwyno fy ngwaith mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae pob un ohonynt wedi bod yn brofiadau gwych, gan ganiatáu i mi deithio i wledydd newydd a chyffrous sydd wedi agor fy llygaid i'r ystod o ymchwil sy'n cael ei wneud yn y maes. Rwy'n edrych ymlaen yn awr at flwyddyn olaf fy PhD, mae derbyn y wobr hon wedi rhoi ysgogiad newydd i mi."
Rhoddwyd y fedal efydd i David Beck o Fangor, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, a phwnc ei draethawd hir yw'r newid mewn tlodi bwyd.
Enwebwyd David gan Dr Hefin Gwilym, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol, a ddywedodd: "Mae David wedi sefydlu perthynas ardderchog gyda sefydliadau yn y gymuned leol. Mae'r partneriaethau hyn wedi helpu'r brifysgol yn sylweddol gydag ymchwil i dlodi yn ardal gogledd Cymru a David arweiniodd y gwaith o sefydlu Rhwydwaith Cynghrair Tlodi Gogledd Cymru.
"David yw'r cyntaf i ymchwilio i dlodi bwyd yn y Gymru fodern. Rhan fawr o'r ymchwil oedd edrych ar y ffenomen ddiweddar o fanciau bwyd yng Nghymru a'u mapio. Mae ei ymchwil wedi gwneud cyfraniad pwysig iawn at ddeall tlodi yng Nghymru, ac mae wedi cyfrannu at y broses o ddatblygu polisïau i fynd i'r afael â'r heriau wrth ddelio â thlodi yng Nghymru."
"Mae David wedi rhoi tystiolaeth arbenigol i wahanol bwyllgorau seneddol yn cynnwys pwyllgor Llywodraeth Cymru ar ddelio â thlodi yng Nghymru a'r Ymchwiliad Seneddol Trawsbleidiol i Newyn yn y DU.
Meddai David: "Dechreuodd fy ymchwil i'r nifer cynyddol o fanciau bwyd ar draws Cymru o ganlyniad uniongyrchol i fy amser yn gwirfoddoli gyda banc bwyd yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor. Wrth wrando ar straeon y bobl sydd wedi cael eu gadael ar ôl gyda'r toriadau mewn nawdd cymdeithasol, roeddwn yn teimlo'n wirioneddol ostyngedig gyda'u disgrifiad o'u hamgylchiadau, sydd wedi achosi eu tlodi bwyd.
"Byddaf yn rhoi cyflwyniadau'n rheolaidd i grwpiau eglwysig a chymunedol, ac i weithwyr cymdeithasol, pobl sy'n ymwneud â'r rhai sy'n dioddef tlodi bwyd, gyda'r gobaith y bydd hyn yn sail wybodaeth i'w hymarfer.
"Gobeithio y bydd canfyddiadau fy ymchwil yn helpu i greu canolfan ymchwil tlodi yma ym Mhrifysgol Bangor, lle hoffwn ddatblygu ymchwil pellach i rôl tlodi, a'i gysylltiad â'r gymdeithas fodern. Byddai ymchwil pellach yn cael ei wneud ar bynciau fel bwyd ysgol a darparu prydau ysgol am ddim, newyn yn ystod y gwyliau, gwastraff bwyd a chynaliadwyedd, daearyddiaeth bwyd ac anialwch bwyd, gyda'r elfen gyffredinol yn edrych ar rôl bwyd a thlodi mewn cymdeithas.
"Wrth dderbyn y fedal hon, hoffwn ddiolch i fy mhartner Siobhan a'n plant, gan eu bod wedi dioddef y daith hon gyda mi dros y deng mlynedd ddiwethaf. Hoffwn hefyd diolch i'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas a fy mhrif oruchwyliwr Dr Hefin Gwilym am ei gefnogaeth a'i anogaeth. Hoffwn ddiolch i staff ADNODD hefyd, yn arbennig Ian Harris am ei sgiliau GIS, a fy ail oruchwyliwr Dr Eifiona Thomas Lane, sydd wedi bod ar y daith hon gyda fi ers fy astudiaethau isradd.
Meddai'r Meistr Frethynnwr, Steven Roderic Beharrell: “Mae'r Brethynwyr yn falch iawn o roi'r medalau i ddau fyfyriwr ôl-radd y mae eu gwaith yn ysbrydoledig. Rydym yn gwerthfawrogi ein perthynas gyda Phrifysgol Bangor sydd wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd ac rwyf yn gobeithio y bydd yn parhau am flynyddoedd i ddod."
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2018