Dyfarnu Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Wybodaeth (KESS II) yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas wedi dyfarnu dwy ysgoloriaeth KESS: un grant Gradd Meistr trwy Ymchwil 12 mis ac un grant PhD tair blynedd. Mae prosiectau Kess yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr Doethuriaeth a Gradd Meistr trwy Ymchwil wedi eu hariannu mewn cydweithrediad â'r cwmni partner.
Prosiect Gradd Meistr trwy Ymchwil
Archwilio gwerth cymdeithasol Hosbisau yng ngogledd Cymru
Yr Athro Jane Noyes a Dr Lindsay Eckley
Goruchwylwyr y Cwmni: Trystan Pritchard, Prif Weithredwr Hosbis Dewi Sant, Llandudno
Ymgynghorwyr: Dr Carys Jones, Swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau a Dr Marlise Poolman, Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Meddygaeth Liniarol yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru yn Wrecsam.
Mae hosbisau dan bwysau cynyddol o sawl ffynhonnell – mae adnoddau ariannol yn dynn, mae galw mawr oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio ac mae angen dangos gwerth eu gweithgareddau. Bydd y prosiect ymchwil hwn yn defnyddio egwyddorion fframwaith Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad; gan adael i'r myfyriwr asesu yn ansoddol ac yn feintiol yr effaith y mae Hosbisau yn eu cael ar fudd-ddeiliaid pwysig sy'n profi newid yn eu bywydau oherwydd y gwaith y mae'r Hosbisau yn ei wneud. Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn bwysig er mwyn deall goblygiadau ehangach a gwerth Hosbisau yng ngogledd Cymru ac er mwyn cynnig pwynt cyfeirio iddynt allu hyrwyddo'r effaith y maent yn ei gael a denu arian.
Mae’r project yn cael ei gynnal gan Nicole Hughes, cyn fyfyrwraig israddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas. Cafodd radd dosbarth Cyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn 2015.
PhD
Bywydau pob dydd: ymchwilio i brofiadau pobl ag anabledd dysgu yng nghyfnod cynnar deddf newydd Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) Cymru
Dr Diane Seddon a Dr Anne Krayer
Goruchwylwyr y Cwmni: Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru
Bydd y prosiect ymchwil hwn dros dair blynedd yn ymchwilio i faes diogelu dan ddeddf newydd Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru, gan edrych yn benodol ar bobl ag anableddau dysgu sy'n cael profiad o droseddau casineb yn erbyn pobl anabl. Yn benodol, bydd yn:
- ymchwilio i’r heriau a geir wrth hyrwyddo rhagor o annibyniaeth, o ddewis ac o gynhwysiant cymdeithasol ar gyfer pobl ag Anawsterau Dysgu ac effaith hynny ar fynd ati i’w diogelu a'u hamddiffyn rhag niwed a rhag cael eu hecsbloetio.
- myfyrio ynglŷn â phrofiadau pobl ag anableddau dysgu sydd wedi dioddef troseddau casineb ac/neu gael eu hecsbloetio, gan ganolbwyntio ar eu hanes wrth iddyn nhw fynd i mewn i wasanaethau a theithio trwyddynt.
Bydd yr argymhellion o'r prosiect ymchwil yn: cefnogi'r cydweithio ar draws sefydliadau i atal pobl ag anawsterau dysgu rhag dioddef troseddau casineb a helpu'r rheiny sy'n cael eu heffeithio a hysbysu polisïau, ymarfer a datblygiad gweithlu i'r dyfodol ar draws y sectorau perthnasol (iechyd, gofal cymdeithasol, cyfiawnder troseddol).
Bydd yr ymchwil yn cael ei wneud gan Daron Owens a gafodd radd dosbarth cyntaf ag anrhydedd mewn troseddeg a chyfiawnder troseddol yn 2015 yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2016