Efrydiaeth MA Prifysgol Bangor
Mae Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor yn gwahodd ceisiadau am Efrydiaeth Meistr Paratoi at Ymchwil, yn dechrau 1af Hydref 2014. Gall yr efrydiaeth flwyddyn hon (ffioedd a thâl o £9681) gael ei dal yn unrhyw un o'r Ysgolion a ganlyn: Cymraeg; Saesneg; Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg; Ieithyddiaeth; Cerddoriaeth, a'r Ysgol Ieithoedd Modern, a gall ymwneud â'r meysydd canlynol: Archaeoleg, Astudiaethau Celtaidd, Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, Cyfieithu a Cherddoriaeth.
Cynghorir ymgeiswyr i edrych yma i weld manylion rhaglenni MA cymwys.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw DYDD LLUN 25 Awst 2014 a chynhelir cyfweliadau DYDD LLUN 8 Medi 2014.
Rhaid i ymgeiswyr wneud cais gan ddefnyddio Ffurflen Gais Ar-lein y Brifysgol i Ôl-raddedigion, darparu trawsgrifiad o'u canlyniadau gradd, a nodi'r llwybr MA y maent yn gwneud cais amdano.
Mae ffurflen gais ar-lein ar gael yma:
http://www.bangor.ac.uk/courses/postgrad/taught/application.php.cy (Cymraeg)
http://www.bangor.ac.uk/courses/postgrad/taught/application.php.en (Saesneg)
Os ydych eisoes wedi gwneud cais / derbyn cynnig i astudio ar un o’r rhaglenni MA cymwys, anfonwch e-bost i postgradcah@bangor.ac.uk , gan nodi eich bwriad i gael eich ystyried ar gyfer yr efrydiaeth. *NID OES RAID ICHI GYFLWYNO CAIS O’R NEWYDD*