Efrydiaethau PhD: Ffiniau, ymfudo a chymdeithas sifil
Dyddiad cau: 17eg Ionawr 2020
Swm cyllido: Ffioedd llawn y DU/UE, ynghyd â thâl
Hyd: 3 blynedd (yn dechrau ym mis Medi 2020)
Gwahoddir ceisiadau am ddwy efrydiaeth PhD a ariennir yn llawn, a gynigir fel rhan o ganolfan ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD, a ariennir gan yr ESRC. Bydd yr efrydiaethau wedi'u lleoli yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor.
Rydym yn gwahodd ymgeiswyr i gyflwyno cynigion sy'n ymwneud ag un o'r pynciau posibl canlynol:
1. Ffiniau, mudo a chymunedau arfordirol
Mae'r pwnc hwn yn gwahodd cynigion ar gyfer ymchwil sy'n ymchwilio i arwyddocâd newidiol ffiniau a mudo i gymunedau arfordirol, gan ystyried rôl ffiniau'r môr a'u harwyddocâd o'r newydd ar ôl Brexit. Rydym yn croesawu cynigion sy'n canolbwyntio ar Gymru a'r ffin rhwng y DU ac Iwerddon. Gall cynigion gynnwys ymchwil maes lleol, dulliau cymharol neu hanesyddol.
2. Plismona ffiniau ac ymfudo
Mae'r pwnc hwn yn gwahodd cynigion i ymchwilio i blismona ffiniau ac ymfudo. Rydym yn croesawu'n arbennig gynigion sy'n canolbwyntio ar Gymru, Deyrnas Unedig neu ffiniau rhyngwladol. Gall cynigion gynnwys pynciau sy'n ymwneud â phlismona ffiniau trwy asiantaethau nad ydynt yn wladwriaeth, i wahanol safleoedd ar y ffin, ac â naill ai ffiniau tiriogaethol neu rhai nad ydynt yn diriogaethol.
3. Dwyieithrwydd, caffael iaith ac ymfudwyr
Mae'r pwnc hwn yn gwahodd cynigion i ymchwilio i ymfudwyr a/neu ffoaduriaid yng Nghymru, eu hagweddau a'u profiadau o ddysgu Cymraeg, a'u hymdeimlad o berthyn. Rydym yn croesawu'n arbennig gynigion sydd â ffocws cymharol ar Gymru a chymdeithasau dwyieithog ac amlieithog eraill. Gall cynigion gynnwys pynciau sy'n ymwneud â chaffael iaith, darparu cymorth, cyfranogiad cymdeithasol, ymdeimlad o berthyn mewn gwahanol gyd-destunau daearyddol.
Cyllid
Ariennir yr efrydiaethau fel rhan o wobr Canolfan Ymchwil ESRC Cymdeithas Sifil WISERD “Newid Safbwyntiau ar Haenau Dinesig ac Atgyweirio Dinesig”. Mae’n cynnwys ffioedd llawn y DU/UE, costau ymchwil, ynghyd â thâl doethurol yn cyfateb i Leiafswm Cenedlaethol Cynghorau Ymchwil y DU (tua 15k y flwyddyn). Fel rhan o'r cyllid, anogir ymgeiswyr llwyddiannus i ymgymryd â swm bach o addysgu â thâl yn yr ysgol.
Cymhwyster
Dylai fod gan ymgeiswyr gefndir academaidd rhagorol mewn disgyblaeth gwyddorau cymdeithas berthnasol, gan feddu ar radd israddedig dosbarth 1af neu ail ddosbarth uwch, a hefyd wedi cwblhau gradd Meistr erbyn dechrau'r PhD. Mae grantiau llawn (ffioedd a thâl cynnal) yn agored i ddinasyddion y Deyrnas Unedig ac i fyfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd a all fodloni gofynion o ran byw yn y Deyrnas Unedig.
Sut i wneud cais
I wneud cais anfonwch CV, cynnig ymchwil (1,000 o eiriau ar y mwyaf) a llythyr eglurhaol yn nodi pam mae gennych ddiddordeb yn yr efrydiaeth hon, a sut mae'n cyd-fynd â'ch dyhead gyrfa yn y dyfodol, at: Dr Robin Mann, r.mann@bangor.ac.uk
Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau: 17eg Ionawr 2020
Gwybodaeth Bellach
Croesewir ymholiadau anffurfiol am y project, a dylid eu cyfeirio at yr Athro Martina Feilzer (m.feilzer@bangor.ac.uk); +44 (0) 1248 388171); Dr Bethan Loftus (b.loftus@bangor.ac.uk); neu Dr Robin Mann (r.mann@bangor.ac.uk; +44 (0) 1248 382232).
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2019