Eisteddfod Genedlaethol- Gweithgareddau Prifysgol Bangor Dydd Mawrth
Pontio’n datgelu manylion y cynhyrchiad Cymraeg gyntaf i’w lwyfannu yn y ganolfan newydd
Caiff manylion y cynhyrchiad Cymraeg gyntaf i’w lwyfannu yng nghanolfan Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor, fydd yn agor y flwyddyn nesaf, eu datgelu yn yr Eisteddfod.
Bydd Cyfarwyddwr Artistig Pontio, Elen ap Robert, a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Arwel Gruffydd, yn trafod y sioe - sydd ar hyn o bryd yn ddienw - mewn sesiwn agored am 11 o’r gloch fore Mawrth 6 Awst ym mhabell Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cadeirir y cyfarfod gan y gyn-ddarlledwraig Bethan Jones Parry a bydd yn cynnwys trafodaeth ehangach gyda Chyfarwyddwr Gweithredol Pontio, Dewi Hughes, ar amcanion y ganolfan at y dyfodol.
Dathlu hyfforddi gweithwyr cymdeithasol drwy’r iaith Gymraeg
Bydd Prifysgol Bangor yn dathlu diwedd blwyddyn gyntaf y cwrs MA Gwaith Cymdeithasol a dderbyniodd ei fyfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2012. Cynhelir y digwyddiad brynhawn Mawrth, 6 Awst am 1 o’r gloch ym mhabell y brifysgol yn y brifwyl.
Hwn yw’r cwrs cyntaf o'i fath yng Nghymru sy’n cynnig rhaglen hyfforddi broffesiynol ar lefel meistr mewn gwaith cymdeithasol yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Ni fu hyn ar gael ar lefel meistr nac israddedig cyn hyn.
Fel esbonia Gwenan Prysor, Cyfarwyddwr M.A. Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae'r cwrs yn ddatblygiad cyffrous ac amserol gan ei fod yn cyd-fynd â “Mwy na Geiriau”, sef Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol.
“Mae'n bwysig bod pobl yn gallu siarad am eu sefyllfa, eu teimladau a'u syniadau dwys, cymhleth neu emosiynol yn yr iaith sydd fwyaf effeithiol iddynt hwy. Mae datblygu gweithlu sydd yn broffesiynol, yn hyderus ac yn abl yn eu sgiliau a'u gwybodaeth yn un o amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwaith cymdeithasol fel proffesiwn.
“Mae datblygu gweithlu dwyieithog sydd yn broffesiynol, yn hyderus ac yn abl i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan o'r ddarpariaeth yma.”
Yn ogystal â darparu myfyrwyr sydd yn gymwys i weithio ym maes gwaith cymdeithasol ar ddiwedd y cwrs, mae cyfle i’r myfyrwyr eu hunain ymgymryd â phroject ymchwil sy’n seiliedig ar ymarfer.
Darlith flynyddol cylchgrawn Barn
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Ysgol y Gymraeg wedi cydweithio ar broject Mynediad i Radd Meistr gyda Cwmni Barn Cyf, sy'n gyfrifol am gyhoeddi'r cylchgrawn materion cyfoes a diwylliannol 'Barn'. I ddathlu llwyddiant y cydweithio hwn, cynhelir darlith flynyddol y cylchgrawn ym mhabell Bangor am 2 o’r gloch brynhawn Mawrth 6. Y darlithydd eleni fydd Guto Bebb AS.
Mae’r cynllun Mynediad i Radd Meistr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio ar brojectau MA mewn cydweithrediad â’u goruchwilwyr academaidd a chwmni neu gorff allanol . Fe’i gyllidir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy’r rhaglen Cydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Digwyddiadau eraill o amgylch y maes:
Bydd Angharad Price, o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn cyflwyno “Chums? Dylanwad Daniel Owen ar T.H. Parry-Williams” yn y Babell Lên am 3.45 o’r gloch brynhawn Mawrth 6.
Yn y Babell Lên, am 11 o’r gloch y bore, bydd Dr Enlli Thomas o Ysgol Addysg Prifysgol Bangor yn cyflwyno “O enau plant bychain: caffael iaith a sgiliau gwybyddol plant dwyieithog yng Nghymru”. Mae Enlli Thomas yn arbenigo mewn dwyieithrwydd yng nghyd-destun seicoleg ac addysg. Dyma ran o gyfres ddarlithoedd blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2013