Ethol Athro o Fangor yn Gymrawd o’r Academi Brydeinig
Mae hanesydd ac archeolegydd blaenllaw o Brifysgol Bangor wedi ei hethol yn Gymrawd o’r Academi Brydeinig (FBA).
Mae Nancy Edwards, Athro Archaeoleg Ganoloesol yn Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg y Brifysgol wedi derbyn y Gymrodoriaeth, sef yr anrhydedd uchaf y gall ysgolhaig yn y celfyddydau a'r dyniaethau ei gael ym Mhrydain, mewn cydnabyddiaeth o’i chyfraniad nodedig i ymchwil mewn archeoleg.
Pob blwyddyn mae'r Academi Brydeinig yn ethol yn Gymrodyr hyd at 42 o ysgolheigion nodedig o'r DU sydd wedi ennill amlygrwydd yn unrhyw gangen o'r dyniaethau a gwyddorau cymdeithas. Yng ngeiriau'r Academi Brydeinig, mae cymrodyr yn ysgolheigion sydd 'wedi rhagori yn unrhyw un o'r canghennau astudio y mae'r Academi yn eu hyrwyddo.'
Canolbwynt ymchwil yr Athro Edwards yw archeoleg Cymru ac Iwerddon ym mlynyddoedd cynnar y cyfnod canoloesol. Mae ei diddordebau pennaf yn ymwneud â cherrig arysgrifedig a cherflunwaith carreg ac archeoleg yr eglwys.
Mae’r Athro Edwards wedi cyhoeddi’n eang. Ymhlith ei gwaith mwyaf dylanwadol, mae’r ddwy gyfrol ar gerrig arysgrifedig a cherflunwaith carreg yng Nghymru (Corpus of Early Medieval Inscribed Stones and Stone Sculptures, Volume III, North Wales and Volume II South-West Wales). Mae’r cyfrolau’n cwmpasu gwaith gwerthfawr i gynnwys yr holl henebion, gan gynnwys rhai nad ydynt wedi eu rhestru. Yn y blynyddoedd diweddar, mae wedi bod yn cynnal gwaith archeolegol o bwys i ymestyn ein dealltwriaeth hanesyddol ac archeolegol o Dŵr Eliseg, colofn o’r nawfed ganrif a saif ger Llangollen.
Mae Nancy Edwards hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn Gymrawd Cymdeithas Henebion (Society of Antiquaries) ac mae wedi gwasanaethu yn cynghori ar archeoleg i sawl gorff cyhoeddus yng Nghymru.
Meddai’r Athro Andrew Edwards, Deon y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Bangor:
“Rwy’n falch iawn bod cyfraniad sylweddol ac ystyrlon Nancy i archeoleg wedi ei gydnabod gan yr Academi Brydeinig gyda’r Gymrodoriaeth o bwys. Mae hyn yn wobr haeddiannol iawn i ysgolhaig sydd wedi gweithio’n ddiflino i hybu a datblygu ei disgyblaeth yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r wobr yn adlewyrchiad clir o’r parch a roddir i Nancy fel awdurdod byd-eang ar archeoleg Cymru ac Iwerddon.”
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2016