Ethol Athro yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru
Y mae Huw Pryce, Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor, wedi’i ethol yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn Etholiad Agoriadol y Gymdeithas o gymrodyr newydd yn 2011.
Sefydlwyd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ym Mai 2010. Ei amcanion yw:
- dathlu, cydnabod, cynnal, gwarchod a meithrin rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, ac yn y proffesiynau, diwydiant a masnach, y celfyddydau a gwasanaeth cyhoeddus;
- hyrwyddo cynnydd dysg ac ysgolheictod a lledaeniad a chymhwysiad canlyniadau archwiliad ac ymchwil academaidd; a
- gweithredu fel ffynhonnell cyngor ysgolheigaidd annibynnol ac arbenigol ac i sylwebu ar faterion sy’n effeithio ar les Cymru a’i phobl ac i hyrwyddo trafodaeth a rhyngweithiad cyhoeddus ar faterion o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol
Am wybodaeth bellach am y Gymdeithas ymwelwch â http://learnedsocietywales.ac.uk/
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2012