Fflur yn ennill gradd dosbarth cyntaf a gwobr uchaf y Brifysgol
Fflur Elin o Donyrefail yw enillydd Gwobr Dr John Robert Jones o fewn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg eleni. Hon yw un o brif wobrau Prifysgol Bangor, sy’n cael ei ddyfarnu i’r graddedigion gorau yn eu maes pwnc.
Graddiodd Fflur, 21, sy’n gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Llanhari, gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes a derbyniodd siec werth £1,500 yn ystod ei seremoni graddio.
Hefyd yn ystod y seremoni raddio, bydd Fflur hefyd yn derbyn Gwobr Goffa Charles Mowat o £100. Sefydlwyd y wobr yn 1983 er cof am y diweddar Athro Charles Mowat, Athro Hanes yn y Brifysgol o 1958 tan 1970. Rhoddir y wobr i'r myfyriwr mwyaf teilwng sy'n graddio gydag Anrhydedd mewn Hanes yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg.
Meddai Fflur: “Roeddwn wrth fy modd i glywed y newyddion mod i wedi ennill y gwobrau. Mae’n golygu llawer fod y gwaith rwyf wedi ei wneud dros y dair blynedd diwethaf wedi dwyn ffrwyth.
Wedi’i magu drwy’r Gymraeg, mae’r iaith yn bwysig iawn i Fflur. A hithau wastad wedi bod â diddordeb mewn hanes ac yn hoff iawn o ddarllen, ac ar ôl mynychu diwrnod agored y Brifysgol a bod ymhlith staff a myfyrwyr cyfeillgar, penderfynodd mae Bangor oedd y dewis iddi hi.
Fel nifer fawr o fyfyrwyr, roedd Fflur yn gweithio yn ystod ei chyfnod ym Mangor, eglurai Fflur: “Roeddwn i’n gweithio mewn siop lyfrau yn ystod fy mlwyddyn cyntaf ac fy ail flwyddyn ac wedi gwneud gwaith ar hyd fy nhair mlynedd i’r Brifysgol yn ffonio cyn-fyfyrwyr, fel rhan o ymgyrch blynyddol sy’n cael ei drefnu gan adran Alumni’r Brifysgol. Roedd hi yn anodd i gael cyd-bwysedd ond yn ariannol doedd gen i ddim dewis.
“Un o’r prosiectau mwyaf diddorol i fi fod yn rhan ohono ym Mhrifysgol Bangor oedd bod yn gynrychiolydd cwrs am dair blynedd. Mwynheais fod yn rhan o brosesau oedd yn gwella cyrsiau i fyfyrwyr. Roeddwn i’n aelod o UMCB ac ar y pwyllgor ar gyfer y gymdeithas UNITY.
“Rwy’n drist i fod yn gadael yr Ysgol Hanes, ond yn edrych ymlaen at weithio am flwyddyn fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor. Rwy’n gobeithio gallu gweithio gyda myfyrwyr mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol i wneud gwelliannau; yn benodol yn ymwneud â gwneud y cwricwlwm yn fwy cynhwysol, gweithio gyda’r gymuned leol i wella’r berthynas a chryfhau’r gymuned i fyfyrwyr ôl-radd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2015