Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol 2021 - Canfyddiadau o Newid Hinsawdd - Sgwrs gan Dr Pelle Tejsner: ‘Fluctuating weather and changing coastlines: perceptions of climate change on Qeqertarsuaq/ Disko Island’
Yn dilyn cynhadledd Cop26 a'r brys cynyddol i fynd ati i feddwl, gweithredu a datblygu dealltwriaeth ryngddisgyblaethol o ran newid yn yr hinsawdd, cynhaliodd yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas sgwrs gan Dr Pelle Tejsner yn dwyn y teitl; “Fluctuating weather and changing coastlines: perceptions of climate change on Qeqertarsuaq/ Disko Island”. Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd â grŵp rhyngddisgyblaethol Lleoliadau Newid Hinsawdd Prifysgol Bangor yn rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC (Cyngor Ymchwil Gymdeithasol Ewrop).
Cadeiriwyd y digwyddiad gan Dr Corinna Patterson o’r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas. Agorodd hithau drwy gyflwyno’r Athro Robin Grove-White, sydd wedi cysegru ei yrfa i gyfiawnder amgylcheddol ac i ddyfnhau dealltwriaeth gymdeithasol-amgylcheddol o faterion amgylcheddol. Ar hyn o bryd mae’r Athro Robin Grove-White yn Athro Emeritws yr Amgylchedd a Chymdeithas ym Mhrifysgol Caerhirfryn (ar ôl bod yn gyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Newid Amgylcheddol yng Nghaerhirfryn rhwng 1991 a 2004). Mae hefyd yn Gadeirydd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Roedd yr Athro Grove-White hefyd yn Gyfarwyddwr CPRE (Yr Elusen Cefn Gwlad) ac yn Gadeirydd Greenpeace UK yn ystod y 1970au a'r 1980au.
Yn ei dro, bu i’r Athro Grove-White gyflwyno Dr Pelle Tejsner, Athro Cynorthwyol a chymrawd ymchwil ôl-ddoethurol gyda Chanolfan Ymchwil yr Arctig ym Mhrifysgol Aarhus, Denmarc. Rhoddodd Dr Tesjner gyfrif cyfareddol wedyn o sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bobl ar ynys Qeqertarsuaq, a adwaenir hefyd wrth yr enw 'Ynys Disko', sydd oddi ar arfordir yr Ynys Las.
Amlygodd sgwrs Dr Pelle Tejsne sut mae'r newidiadau hinsoddol dramatig sy'n digwydd yn yr Artig yn effeithio ar ecosystem y rhanbarth a hefyd ar fywoliaeth pobl frodorol a'u perthynas â 'lle'. Mae canfyddiad traddodiadol y Qeqertarsuarmiut (cymunedau Inuit lleol Ynys Disko) ohonynt eu hunain fel ceidwaid yr amgylchedd lleol a'i adnoddau bellach yn cael ei fygwth gan fuddiannau'r wladwriaeth a chwmnïau rhyngwladol wrth i'r rhewlifoedd a rhew’r môr ddadmer gan agor y rhanbarth i fwy o longau, twristiaeth ac echdynnu adnoddau. Byrdwn sgwrs Pelle Tejsner oedd edrych ar beth oedd effaith y newidiadau hyn ar gymunedau brodorol, eu canfyddiadau ohonynt eu hunain fel ceidwaid yr amgylchedd, a sut maent yn addasu'n ymarferol ac yn emosiynol i'r dirwedd sy'n newid. Fodd bynnag, er gwaethaf natur ddifrifol y sgwrs, canolbwyntiwyd ar ddyfeisgarwch a gwytnwch bodau dynol i addasu i newid cyflym yn yr hinsawdd, gan gynnig ychydig o optimistiaeth yr oedd mawr ei angen yn y trafodaethau ehangach ynghylch yr argyfwng hinsawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2021