Galwad am Bapurau Gweithdy Hanes Pobl Ddu ym Mhrydain
Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiadau blaenorol yn Llundain, Lerpwl, Bryste, Preston, Huddersfield a Chaerlŷr, hoffem eich gwahodd i'r pedwerydd gweithdy ar ddeg ar Hanes Pobl Dduon (WHBBHXII), a gynhelir ym Mhrifysgol Bangor yng Ngogledd Cymru ar ddydd Sadwrn, 14 Mai 2022.
Nod y gyfres yw meithrin deialog greadigol rhwng ymchwilwyr, addysgwyr (prif ffrwd ac atodol), artistiaid ac awduron, archifwyr a churaduron, a llunwyr polisïau. Y diben yw ceisio hyrwyddo ymchwil newydd arloesol i hanes pobl o darddiad neu dras Affricanaidd yn y Deyrnas Unedig, a hwyluso trafod y datblygiadau diweddaraf o ran hyrwyddo hanes pobl dduon Prydain mewn amrywiaeth eang o leoliadau gan gynnwys y cyfryngau, yr ystafell ddosbarth a darlithfeydd, ac amgueddfeydd ac orielau, gan roi cyfle i rannu arfer da.
Trefnwyd y gweithdy ym Mangor yn wreiddiol ar gyfer Ebrill 2020, ond fe’n gorfodwyd gan argyfwng COVID-19 i'w ohirio. O ganlyniad, rydym eisoes wedi derbyn nifer o gynigion ac ar hyn o bryd rydym yn cadarnhau trefniadau gyda'r awduron. Ond rydym yn dal yn awyddus i ddenu rhai cyflwyniadau ychwanegol ar gyfer y gweithdy sydd wedi'i aildrefnu ar gyfer 14 Mai. Bydd pwyslais lleol cryf i'r digwyddiad, felly rydym yn chwilio'n benodol am gynigion ar gyfer cyflwyniadau sy'n archwilio rhyw agwedd ar ddimensiwn o hanes Pobl Dduon Cymru. Cyflwynwch deitl a disgrifiad byr o'ch cyflwyniad (dim mwy na 300 gair) fel dogfen Word ynghlwm i'r Athro Philip Murphy ar Philip.Murphy@sas.ac.uk erbyn dydd Llun, 17 Ionawr 2022. Cynhwyswch eich enw, manylion cyswllt, ac, os oes gennych chi’r manylion, enw'r sefydliad cysylltiedig ac enw defnyddiwr eich cyfrif Twitter.
Yn ogystal, byddem yn hapus i ystyried cynigion am banel cyflawn. Dylai fod gan y panel thema unedig gydlynol, a dylai'r cynnig gynnwys crynodebau tri chyflwyniad cysylltiedig ac enwau a sefydliadau'r cyflwynwyr. Byddai gennym ddiddordeb mawr hefyd mewn rhoi cyfle i fyfyrwyr Safon Uwch, israddedigion neu raddedigion roi cyflwyniadau ar brojectau sy'n ymwneud â Hanes Pobl Dduon Prydain.
Cynhelir y diwrnod rhwng 10:30am a 6.00pm, ac yna ceir derbyniad. Gallwn gynnig ffi fechan a bwrsariaethau teithio i'r siaradwyr hynny heb gysylltiad â sefydliad na chefnogaeth gan sefydliad.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2021