GALWAD AM BAPURAU / POSTERI: Cynhadledd Flynyddol WISERD 2020
GALWAD AM BAPURAU / POSTERI
Cynhadledd Flynyddol WISERD 2020
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y galwad am bapurau nawr AR AGOR ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2019, Prifysgol Caerdydd, Dydd Mawrth a dydd Mercher 7 a 8 Gorffennaf 2020.
‘Tystiolaeth, polisi a’r argyfwng mewn arbenigedd’ yw’r thema ar gyfer ein cynhadledd flynyddol ac mae argoel y bydd yn rhoi cyfle i gydweithwyr o bob rhan o’r sector academaidd, polisi, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector rwydweithio a thrafod ymchwil rhyngddisgyblaethol arloesol o Gymru a thu hwnt sy’n canolbwyntio ar ddulliau a fabwysiadwyd mewn amrywiaeth eang o feysydd polisi. Dyma rai o’r themâu a allai fod o dan sylw:
- Y Gymdeithas Sifil
- Addysg
- Gwleidyddiaeth a Llywodraethiant
- Iechyd a Lles
- Y Marchnadoedd Llafur a Gwaith
Eleni hoffem wahodd cynigion am gyflwyniadau papur, sesiynau rhyngweithiol/gweithdai, posteri/arddangosion, neu golocwia mewn unrhyw ddisgyblaeth sy’n ymgysylltu â gwyddorau cymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2020