Golwg newydd ar Gymru yng Nghynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru Gogledd America
Bydd academyddion a myfyrwyr rhyngwladol sydd yn astudio Hanes Cymru yn cyfarfod ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon (25 - 27 Gorffennaf), wrth i’r Brifysgol groesawu 12fed cynhadledd Cymdeithas Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru Gogledd America 2018. Cynhelir y gynhadledd hon bob dwy flynedd.
Bydd y gynhadledd hon, sy’n para am dridiau, yn trafod detholiad cynhyrfus ac amrywiol o destunau a themâu sy’n ymwneud â diwylliant, llenyddiaeth a hanes Cymru, gan gynnwys diwylliant poblogaidd, gwleidyddiaeth, y tirlun, llenyddiaeth, rhyfel, y cyfryngau a cherddoriaeth. Bydd hefyd yn edrych ar ddiwylliant Cymru yn America, ac yn rhoi sylw i bynciau llosg sy’n effeithio ar y Gymru gyfoes.
Efallai fod Edward Lhuyd, y naturiaethwr a’r ysgolhaig o’r 17eg ganrif, yn fwyaf adnabyddus fel y sawl a ddarganfu ‘Lili’r Wyddfa’, neu fel ‘tad Astudiaethau Celtaidd’, ond yn y brif ddarlith bydd Huw Pryce, Athro Hanes Cymru Prifysgol Bangor, yn dadlau bod dealltwriaeth sylfaenol Edward Lhuyd o hanes Cymru'n bur nodweddiadol o'i gyfnod.
Drwy gydweithio â hynafiaethwyr yng Nghymru, mae’r Athro Pryce yn dadlau fod Lhuyd hefyd yn taflu goleuni unigryw ar ddiwylliant hanesyddol ei gydoeswyr - gan gynnwys 'chwedlau' a 'thraddodiadau' y bobl gyffredin.
Digwyddiad arall ar agenda lawn ac amrywiol y gynhadledd yw panel yn trafod Tirlunio gorffennol Cymru, gan drafod sut y gellir defnyddio’r tirlun fel ffynhonnell hanesyddol.
Bydd myfyrwraig ôl-radd o’r Brifysgol, Leona Holland, yn bwrw golwg ar safle hen ddistyllfa chwisgi yn Fron Goch ger y Bala a ddefnyddiwyd fel gwersyll carcharorion rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna fel gwersyll ar gyfer carcharorion o Iwerddon yn dilyn Gwrthryfel y Pasg 1916.
Bydd yr archeolegydd, Gary Robinson, yr hanesydd, Mari Wiliam a’r myfyriwr israddedig mewn Archeoleg, Owen Hurcum, yn trafod y ffaith nad yw olion o’r gorffennol y gellir eu gweld o hyd yn y tirwedd, megis graffiti, wedi cael sylw digonol.
“Mae gan gymdeithas gof diwylliannol byw am ddigwyddiadau dadleuol yng Nghymru’r 20ed ganrif, megis ‘boddi’ Tryweryn ym 1965 neu Arwisgo’r Tywysog Charles yn Dywysog Cymru ym 1969. Arweiniodd y digwyddiadau hyn at brotestiadau cenedlaetholgar, ac yn fwy trawiadol gan grwpiau mwy milwriaethus megis Byddin Rhyddid Cymru neu’r Free Wales Army a wisgai lifrai ac arnynt arwyddlun ‘Eryr Gwyn Eryri’.
Byddwn yn trafod dulliau archeolegol a hanesyddol sy’n cyd-fynd â gwaith ein cyd-banelwr, Sean Martin, ynglŷn â thirwedd dadleuol Tryweryn a Gorsaf Niwclear Trawsfynydd. Byddwn yn edrych ar sut mae graffiti, gorymdeithiau cofio a hyd yn oed grysau-t yn cynnal olion gweledol a diriaethol o gerrig milltir cenedlaetholdeb ac yn cynnal mytholeg emosiynol am orffennol diweddar Cymru.”
Meddai’r Athro Andrew Edwards, Deon a chyd-drefnydd y gynhadledd:
“2012 oedd y tro diwethaf y cynhaliwyd Cynhadledd NAASWCH ym Mangor, ac rwy’n falch o’i chroesawu unwaith eto i’r Brifysgol, gan ei bod yn cynnig gyfle gwych i ddysgu am ymchwil sy’n torri cwys newydd yn ein dealltwriaeth o orffennol Cymru a’i chymdeithas gyfoes.’
Mae’r gynhadledd hefyd yn cynnwys papurau gafaelgar gan brif siaradwyr blaenllaw megis Katie Gramich, Athro Llenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd, a Huw Osborne, Athro Cysylltiol yng Ngholeg Milwrol Brenhinol Canada.
I gael rhagor o fanylion am y gynhadledd, cysylltwch â’r cyd-drefnydd Dr Mari Wiliam:
Bydd cyfranogwyr y gynhadledd hefyd yn cyhoeddi darn cryno ar flog newydd Prifysgol Bangor ar Hanes Cymru. Gellir gweld y blog ar y ddolen ganlynol:
https://hanescymrubangor.wordpress.com/
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2018