Gradd dosbarth cyntaf i ferch o Lŷn
Ar ôl tair blynedd anhygoel, bydd cyn-fyfyrwraig o Goleg Meirion-Dwyfor yn derbyn gradd dosbarth cyntaf yn nathliadau’r seremonïau graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Nid yn unig bydd Lois Angharad Owens, 21, o Bwllheli yn graddio gyda BA Hanes a Newyddiaduraeth, ond fe fydd hefyd yn derbyn Gwobr Blanche Elwy Hughes gwerth £100. Sefydlwyd y wobr ym 1960 er cof am y ddiweddar Miss Blanche Elwy Hughes, cyn-fyfyrwraig y Brifysgol, a oedd am flynyddoedd lawer yn Brifathrawes Ysgol Ramadeg i Ferched ym Mangor. Roedd yn parhau i fod â diddordeb mawr yn y Brifysgol tan ei marwolaeth yn 1960. Dyfernir y wobr gan yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg i'r myfyriwr hanes Cymru gorau.
Yn hapus i fod yn graddio, dywedodd Lois: “Mae’n rhyddhad o wybod bod y gwaith caled wedi talu ar ei ganfed ac rwy’n teimlo elfen o dristwch yn gadael Bangor.
“Rwyf wedi gwirioni mod i wedi ennill y wobr, roedd yn hollol annisgwyl ac mae fy nheulu’n falch iawn.
“Penderfynais astudio ym Mangor gan yr oeddwn yn awyddus i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a theimlais mai Bangor fyddai’r lle gorau i wneud hynny. Mae gan y Brifysgol awyrgylch a chymuned gyffredinol Gymraeg sy’n braf iawn.
“Yn ystod yr ail flwyddyn fe enillais interniaeth gyda Gwobr Cyflogadwyedd Bangor. Amcan y prosiect yma oedd catalogio ffynonellau yn ymwneud a’r Urdd gan fod y mudiad yn dathlu ei ganmlwyddiant yn 2022.
“Yn ystod fy nhrydedd flwyddyn roeddwn yn gweithio yn Llyfrgell y Brifysgol, roedd hyn yn gallu bod yn anodd ar brydiau, ond roeddwn yn falch o’r arian a’r egwyl o ganolbwyntio ar fy ngwaith academaidd.
“Yn y dyfodol rwy’n gobeithio parhau ag addysg ac astudio gradd Meistr.”
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014