Gradd meistr KESS a gaiff ei ariannu’n llawn: dyddiad cau 29/01/14
Bydd Myfyriwr KESS yn cael ei recriwtio i gyflawni’r prosiect ymchwil gradd meistr hwn. Cyfeirnod y Prosiect: BU Mini 080
Teitl y prosiect ymchwil: Edrych ar y Bond Lles Cymru ym Mhartneriaeth Môn Gwynedd
Crynodeb o’r prosiect:
Mae’r prosiect hwn yn gyfle cyffrous i gwblhau prosiect ymchwil gradd meistr a gaiff ei ariannu’n llawn.
Mae pwysau ar wariant cyhoeddus ar adeg pan fo’r galw am wasanaethau cyhoeddus yn cynyddu yn golygu ein bod yn edrych yn gynyddol am ffyrdd o wneud arbedion tra hefyd yn cynnal gwasanaethau o ansawdd ar gyfer pobl. Cyflwynwyd Bond Lles Cymru i helpu i fynd i’r afael â’r her hon. Nod y Bond yw lleihau'r galw am wasanaethau cyhoeddus drwy fuddsoddi mwy mewn gwaith ataliol a gwaith yn y gymuned. Bydd y prosiect ymchwil hwn yn edrych ar effaith Bond Lles Cymru mewn dwy ardal Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar gynllunio a darparu nifer bychan o gynlluniau yn y gymuned a ddatblygwyd gyda’r buddsoddiad. Bydd yr ymchwil yn gwneud y canlynol:
A. Canfod rhai o elfennau unigryw ac arloesol y cynlluniau.
B. Ystyried y profiadau a’r sialensiau a wynebir gan fudiadau lleol, aelodau’r gymuned leol ac unigolion sy’n defnyddio’r cynlluniau.
Bydd yr ymchwil yn cynnwys cyfweld defnyddwyr gwasanaeth, cynllunwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau. Bydd hefyd yn cynnwys edrych ar ddata a gesglir fel mater o drefn gan sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Crynodeb o’r ysgol/ardal/cwmni partner: Lleolir y myfyriwr yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor, sy’n cynnig amgylchedd ymchwil cyffrous a deinamig. Bydd ef neu hi yn gweithio’n agos gyda'r partner cwmni, Trystan Pritchard, sy’n Uwch Reolwr Partneriaethau, Uned Partneriaethau Gwynedd a Môn (Cynghorau Gwynedd a Môn).
Mae'r ysgoloriaeth ymchwil blwyddyn o hyd (rhaid cyflwyno’r traethawd yn ddim hwy na thri mis ar ôl y cyfnod blwyddyn o astudiaeth a ariennir) yn cynnwys tâl cynhaliaeth di-dreth o £10,130 am 12 mis, gyda’r ffioedd llawn-amser a lwfansau ychwanegol yn cael eu talu. Mae'n ofyniad dan yr ysgoloriaeth ymchwil i dreulio 30-diwrnod ar leoliad gyda’r cwmni partner, yn ystod cyfnod y prosiect. Mae cyflawni Dyfarniad Datblygu Sgiliau Ôl-raddedig (PSDA) yn ofynnol ar gyfer holl ysgolheigion KESS. Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ysgoloriaeth ymchwil a’r broses ymgeisio yn www.higherskillswales.co.uk/kess
Gofynion o ran cymwysterau a phrofiad ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus: Dylai’r darpar ymgeisydd fod ag o leiaf radd dosbarth 1af neu 2:1 da, ac ar gael i ymgymryd â'r ysgoloriaeth ymchwil yn ystod Chwefror 2014. (Dim ond ymgeisio sydd angen, nid oes raid i ymgeiswyr sicrhau cwmni partner.)
Dylid gwneud ymholiadau anffurfiol â: Diane Seddon, yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor, ffôn 01248 388 220, e-bost d.seddon@bangor.ac.uk
Sut i wneud cais: Y cam cyntaf yn y broses ymgeisio fydd llenwi a chyflwyno Ffurflen Gais a Chymhwysedd Cyfranogwr KESS y gellir ei llwytho yma. Rhaid llenwi, llofnodi a chyflwyno’r copi gwreiddiol i Caroline Barton, Uwch Swyddog Clerigol, KESS, Ystafell E1.09, Y Ganolfan Reoli, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG kess@bangor.ac.uk. Byddwch yn derbyn ymateb ynghylch eich cymhwysedd o fewn 5 diwrnod gwaith i dderbyn eich ffurflen.
Y dyddiad cau: Dydd Gwener 29ain Ionawr 2014 Fel arfer bydd yn ofynnol i ymgeiswyr a roddwyd ar y rhestr fer ddod am gyfweliad.
Cymhwysedd: I fod yn gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen KESS rhaid i ddarpar fyfyrwyr fod yn byw yn yr Ardal Gydgyfeirio (Gorllewin Cymru a'r Cymoedd) pan yn gwneud cais, ac yn gallu gweithio yn yr Ardal Gydgyfeirio ar ôl cwblhau’r ysgoloriaeth. Y Ffurflen Cymhwysedd yw’r cam cyntaf yn y broses ymgeisio ac ni fydd unrhyw geisiadau nad ydynt yn cwrdd â’r meini prawf uchod yn cael eu prosesu ymhellach.
Menter sgiliau lefel uwch Cymru-gyfan yw Ysgoloriaeth Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch (HE) yng Nghymru. Caiff ei ariannu yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Os gwelwch yn dda, cyfeiriwch bob ymholiad am KESS at: kess@bangor.ac.uk. 01248 383 582
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2014