Grŵp Amgylchedd Hanesyddol
Mae’r Grwp Amgylchedd Hanesyddol (GAH) yn gorff sydd yn cynghori’r Cynulliad ar amgylchedd hanesyddol Cymru, ac yn Nhachwedd 2013 cyfarfu ym Mhrifysgol Bangor. Mae nifer o aelodau staff o’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yn cyfrannu at y GAH, o dan arweiniad yr Athro Ray Karl.
Yn y cyfarfod ym Mangor roedd John Griffiths, y Gweinidog dros Ddiwylliant a Chwaraeon yn y Cynulliad, yn bresennol i drafod Mesur Tretfadaeth newydd sydd wrthi’n cael ei drafod. Ymhelaethodd ymhellach ar Strategaeth Amgylched Hanesyddol y Cynulliad. Am fanylion pellach gweler: http://cadw.wales.gov.uk/historicenvironment/policy/historicenvironmentstrategyforWales/?skip=1&lang=cy
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2013