Gweithdai ar Adeiladu Cymuned wedi'u cynnal ym Mangor
Cynhaliwyd dau weithdy llwyddiannus ar Adeiladu Cymuned ym Mhrifysgol Bangor yn ystod May 2013, a threfnwyd y ddau ar y cyd gan Dr Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, a Dr Dinah Evans, Darlithydd mewn Hanes Modern. Noddwyd y ddau weithdy gan WISERD a’r AHRC. Denodd y gweithdai gyfraniadau gan nifer o ysgolheigion a gwleidyddion amlwg, megis Albert Owen, AS Llafur Ynys Mon, a’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, AC Plaid Cymru dros Dwyfor-Meirionnydd. Mynychwyd y gweithdai gan nifer o fyfyrwyr Bangor yn ogystal. I weld galeri o ddelweddau o’r gweithdai plis cliciwch yma.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2013