Gwobr a gradd i wirfoddolwr
Mae myfyriwr a fu’n gwirfoddoli drwy gydol ei gyfnod yn y brifysgol, yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos yma.
Mae Daniel Rhydderch-Dart, 21, sy'n hanu o Ddolgellau’n wreiddiol, ond bellach yn byw yng Nghonwy, yn graddio mewn Hanes ac Astudiaethau Crefyddol. Mae hefyd wedi ennill gwobr Downham Andrew, gwerth £ 100, am ei draethawd hir mewn Hanes.
Dywedodd Daniel, cyn-ddisgybl o Ysgol St Gerard, Bangor,: "Mae'n deimlad gwych graddio, ac yn gymaint o ryddhad!
"Roeddwn yn falch iawn o dderbyn y wobr Downham Andrew am fy nhraethawd hir - gwobr a roddwyd er cof am Andrew Downham, myfyriwr hanes a fu farw yn 1992.
"Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd yn gysylltiedig â dyfarnu'r wobr, yr Athro Huw Pryce, a fu’n goruchwylio fy ngwaith yn drylwyr iawn a Dr Huw Glyn Williams o Gaernarfon, a oedd yn gefnogol iawn tra oeddwn yn ymchwilio yn Archifdy Caernarfon. "
Ychwanegodd Daniel: "Yn ystod fy amser ym Mangor, bûm yn gweithio fel gwirfoddolwr gyda'r Swyddog Addysg yn Sŵ Mynydd Cymru gan fod gen i ddiddordeb mawr ym myd natur. Bûm hefyd yn gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd ar y safle cloddio yn Nhai Cochion, Ynys Môn, yn ystod yr haf. Roedd yn wych gweithio dan oruchwyliaeth arbenigol a chael rhannu brwdfrydedd y gwirfoddolwyr eraill.
"Rwyf hefyd wedi cael profiad gwaith gyda Gwasanaeth Archifau Gwynedd yng Nghaernarfon lle roeddwn yn catalogio, yn gweithio yn yr ystafell chwilio ac yn yr adran cadwraeth. Roedd yn fraint ac yn hwyl gweithio yno.
Am y dyfodol, ychwanegodd Daniel: "Rwy'n bwriadu cymryd peth amser i deithio, i ddilyn fy niddordebau ac i wneud rhywfaint o waith ymchwil personol. Y flwyddyn nesaf rwy’n gobeithio cael fy nerbyn i wneud gradd uwch, yn ddelfrydol ym Mangor os bydd ganddyn nhw le i mi!
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013