Gwobr Goffa Duncan Tanner 2013
Graddiodd Martin Andrew Hanks 50, o Benmaenmawr, gydag MA mewn Hanes, gan dderbyn hefyd Wobr Duncan Tanner am y Traethawd Hir Gorau ar gyfer MA, yn dwyn y teitl ‘Can I Help You? The Early Life of Douglas Houghton’.
Yn enedigol o Gaernarfon, mae Martin yn gyn-ddisgybl o Ysgol Syr Hugh Owen. Gadawodd yr ysgol gyda phum lefel-O TAG a fawr ddim arall ac, ar ôl gwasanaethu yn y Llun Awyr Brenhinol a’r Heddlu, sefydlodd fusnes yn Wrecsam. Am y pymtheng mlynedd nesaf, bu Martin a’i wraig yn cynnal eu cwmni, gan gyflogi gweithlu a oedd yn amrywio rhwng 60 a 100. Yn 2003, ar ôl gwerthu’r cwmni, dychwelodd Martin a’i deulu i’r ardal hon. Erbyn 2008, roedd yn chwilio am newid cyfeiriad, a chydag anogaeth ei wraig, cysylltodd â’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg yma ym Mangor. Ymhen tair blynedd, graddiodd Martin gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Hanes gydag Archaeoleg, a pharhau’n union wedyn i ddilyn y cwrs Hanes MA.
Ac yntau wrth ei fodd gyda’i wobr, dywedodd Martin, “Mae’n deimlad anhygoel fy mod wedi ennill y wobr hon. Roedd yn syndod mawr imi pan gefais wybod. Roedd y grŵp bach o Haneswyr Modern y bûm yn astudio gyda hwy i gyd yn ddawnus ac yn ddyfal wrth eu gwaith. Roedd haneswyr a oedd yn astudio cyfnodau eraill hwythau wedi gweithio’n galed ar rai projectau gwirioneddol ddiddorol. Felly, syndod o’r mwyaf oedd ennill y wobr hon oddi mewn i’r grŵp hwnnw. Cwrddais â Duncan Tanner yn ystod fy mlwyddyn gyntaf fel myfyriwr israddedig ym Mangor, ac roeddwn yn astudio yma pan fu farw, felly mae ennill y wobr hon yn anrhydedd arbennig o deimladwy ac ystyrlon.”
Am ei gyfnod ym Mangor, meddai Martin, “Bu profiad y pedair blynedd ddiwethaf, yn ei grynswth, yn wych. Mae’r ffrindiau rwyf wedi’u gwneud, â myfyrwyr eraill a hefyd â staff academaidd, wedi cyfoethogi fy mywyd. Mae’r profiad dysgu yn bleserus ac yn gwneud i rywun awchu am fwy, yn enwedig yn y Brifysgol hon. Rwy’n gobeithio aros yma am amser hir eto. Mae’r seremoni raddio hon, ynghyd â’r seremoni raddio pan gefais fy ngradd BA, ymysg uchafbwyntiau fy amser ym Mangor.”
Ynglŷn â’i ddyfodol, meddai, “Rwyf wrthi ar hyn o bryd yn astudio yma ar gyfer fy PhD, gan ymchwilio i ‘Effaith mewnfudwyr adeg y rhyfel ar Ddiwylliant a Hunaniaeth y Cymry yn ystod yr Ail Ryfel Byd’. Rwy’n gobeithio cwblhau’r cwrs hwn a chael swydd yn y byd academaidd.”
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2013