Gwobrwyo Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobr am ei ymroddiad i gynrychioli ei gyd-fyfyrwyr yn ddiweddar
Enillodd David Loveday, 34, o Rotherhithe, Llundain y teitl "Cynrychiolydd Cwrs" blwyddyn 1 neu 2 Ede & Ravenscroft ynghyd â gwobr ariannol gwerth £1,000. Mae David yn gyn-fyfyriwr Coleg St Dunstans, Llundain, ac ar hyn o bryd mae yn ei drydedd flwyddyn ar y cwrs gradd Polisi Cymdeithasol a Throseddeg gyda Chyfiawnder Troseddol.
Etholir cynrychiolwyr cwrs gan fyfyrwyr o bob blwyddyn i gynrychioli eu barn am eu profiad dysgu. Mae cynrychiolwyr cwrs wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ym Mangor yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae mwy o lyfrau yn y llyfrgell; mae’r cyfrifiaduron yn gyflymach; mae’r rhwydwaith WiFi yn gryfach; mae’r amserlennu’n rhesymegol; mae’r dulliau asesu’n well ac mae ffordd newydd sbon o werthuso a rhoi adborth ar fodiwlau - dyma rai o'r pethau y mae cynrychiolwyr cwrs wedi helpu i sicrhau yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Mae cwmni Ede & Ravenscroft yn darparu'r Brifysgol gyda gynau a ffotograffiaeth swyddogol yn ystod yr wythnos raddio. Mae ganddynt hanes hir o gefnogi myfyrwyr drwy gynnig gwobrau blynyddol i gydnabod eu cyflawniadau, a David yw derbynnydd cyntaf y wobr hael yma ym Mangor.
Roedd David wedi synnu at gael ei enwebu a dywedodd:
"Mae ennill y wobr yma yn eithaf swreal. Mae'n braf bod pobl yn cymryd amser i enwebu ac yn cydnabod y gwaith y mae cynrychiolwyr cwrs yn ei wneud ar eu rhan, ac rwy'n teimlo'n falch iawn o fod wedi ennill y wobr.
"Fe ddes i’r brifysgol ar ôl ‘blwyddyn allan’ a barodd 10 mlynedd gan fy mod wedi teithio, byw a gweithio o amgylch Asia ac Awstralia. Yna, penderfynais y dylwn dyfu i fyny a chael swydd go iawn a'r ffordd orau o gael swydd ddiddorol a difyr oedd dod i'r brifysgol.
"Dewisais Bangor gan ei fod yn bell oddi wrth wrthdyniadau’r cartref ac yr wyf hefyd wedi datblygu hoffter am leoedd sydd yn hollol groes i'r fan lle cefais i fy magu. Mae Bangor a'r ardal gyfagos yn lle gwych i ddod i’w adnabod.
Yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf, bu David yn gweithio yn ystod yr haf, ac eleni, mae’n warden yn un o neuaddau preswyl y brifysgol. Mae hefyd yn fentor myfyrwyr OOPPSS, sef dosbarth sgiliau cyflwyno cyhoeddus dan arweiniad myfyrwyr, sy’n rhan o'r modiwl Ymchwil Cymdeithasol i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sydd ar gwrs gradd gwyddorau cymdeithas.
Y llynedd, roedd David yn aelod gweithgar o'r Grŵp Cefnogaeth Astudio i Fyfyrwyr, grŵp a grëwyd gan ei gyd-fyfyrwyr i helpu myfyrwyr ym mhob blwyddyn ar draws yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas gyda’u traethodau a chyngor gydag arholiadau.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2014