Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC
Mae Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC yn ôl ym Mangor am ei hail flwyddyn. Mae’r wythnos o ddathlu gwyddoniaeth gymdeithasol yn digwydd yn flynyddol ar draws y DU. Yn dilyn nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus y llynedd, mae Prifysgol Bangor eto eleni yn cynnal dau ddigwyddiad er mwyn ymuno â’r dathliadau.
Dydd Mawrth 7 Tachwedd, bydd Y gwyddorau cymdeithasol a bywyd bob dydd yn cyflwyno myfyrwyr Lefel A i ymchwil cymdeithasol sydd yn ymwneud â materion a phenblethau cymdeithasol.
Cynhelir Trechu tlodi yn y cartref a thramor, sydd ar agor i’r cyhoedd (cofrestrwch yma i fynychu) ar 8 Tachwedd a bydd yn cynnwys drama ‘Food Bank as it is’ gan Empty Plate Productions.
Mae’r Ysgol yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr Ŵyl; i ganfod mwy cysylltwch â m.feilzer@bangor.ac.uk.
Gallwch ddilyn Gŵyl yr ESRC at Twitter #esrcfestival a chanfod mwy am yr holl ddigwyddiadau sydd ar gael yma: http://www.esrc.ac.uk/public-engagement/festival-of-social-science/
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2017